Mae Canolfan Mileniwm Cymru a Gŵyl Undod Hijinx yn cyflwyno Unity Expanded – arddangosfa am ddim o dri darn o waith gan artistiaid a chreawdwyr anabl sy'n gweithio ym maes technoleg ymdrochol.
Gan dynnu sylw at weithiau o bob cwr o'r byd, mae'r arddangosfa yn dathlu artistiaid anabl, yn gwthio ffiniau adrodd straeon ac yn herio canfyddiadau cymdeithasol o anabledd.
CREATING THE SPECTACLE
Artist anabl o Ddyfnaint yw Sue Austin, sy'n ceisio newid canfyddiadau am gadeiriau olwyn. Iddi hi, ar ôl treulio blynyddoedd yn gaeth i'r gwely, mae cadair olwyn yn rhoi rhyddid iddi. Mae hi'n 'hedfan' cadair olwyn y Gwasanaeth Iechyd danddwr. Mae hi wedi addasu'r gadair gyda llafnau gwthio (propellers) batri ac aerffoiliau persbecs mawr i reoli troi. Mae hi yn y broses o wneud cais am batent ac mae'n gobeithio un diwrnod bydd y cadeiriau yma ar gael mewn canolfannau deifio ledled y byd. Gallwch chi ddarllen mwy am Sue a'i chelf ar ei gwefan www.sueaustin.co.uk
Cafodd y ffilm ei recordio a'i golygu gan Norman Lomax o Moving Content, DU.
CLODRESTR
NOTES ON BLINDNESS
Darganfyddwch y profiad VR naratif arobryn Notes On Blindness – taith emosiynol i fyd tu hwnt i olwg. Yn 1983, ar ôl degawdau o ddirywio cyson, aeth John Hull yn ddall yn llwyr. I'w helpu i wneud synnwyr o'r newid mawr yn ei fywyd, dechreuodd ddogfennu ei brofiadau ar gasetiau sain. Y recordiadau dyddiadur gwreiddiol yma sy'n creu sail y naratif anffuglennol rhyngweithiol yma sy'n brofiad gwybyddol ac emosiynol o ddallineb. Mae adrodd straeon, cyfarwyddyd celf a bydysawd graffigol yn creu trochiad unigryw ac unigol, wedi'i gwblhau gan olrhain symudiadau, sain ofodol a rhyngweithio â rheolydd.
CLODRESTR
TURBULENCE: JAMAIS VU
'Where déjà vu refers to something new feeling familiar, jamais vu is the sensation of something mundane feeling suddenly unfamiliar. For me, this depersonalisation – which impacts my relationship to myself, my space, and those around me – is the first sign that a vestibular migraine attack is coming.' (Ben Andrews – Creawdwr)
Gan adeiladu ar ei brofiad ei hun o feirgryn festibwlar (VM) cronig, mae Turbulence: Jamais Vu yn brofiad realiti cymysg sy'n dod â chi i mewn i realiti Ben, gan ymgorffori desg ffisegol gyda chamera dyfnder wedi'i fowntio i'r penset VR. Mae hyn yn caniatáu i chi weld eich dwylo eich hun a rhyngweithio â'r amgylchedd o'ch cwmpas... ond mae'r hunan a'r byd yn mynd yn fwyfwy rhyfedd yn y profiad yma, gan ddrysu canfyddiadau a swyddogaeth echddygol (motor) normadol.
CLODRESTR
Amseroedd agor:
Sul – Llun: 11am – 4pm
Maw – Sad: 11am – 6pm
Hyd y profiadau:
Notes on Blindness: 24 munud
Jamais Vu: 10 munud
Creating the Spectacle: Ar lŵp
Canllaw oed:
Notes on Blindness a Jamais Vu: 13+
Creating the Spectacle: Mae croeso i bob oed. Rhaid i bobl o dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.
Prif lun
'Freewheel' | Hawlfraint Llun: Sue Austin. Ffotograffiaeth: Norman Lomax
Beth yw profiad realiti rhithwir?
Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol (simulated). Mae gwesteion yn gwisgo penset gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.
Oes angen archebu lle?
Gallwch chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y profiad am ddim yma i sicrhau lle, neu gerdded i mewn ar y diwrnod.
Mae lle i 3 person ym mhob sesiwn.
Mynediad olaf yw 6pm Maw – Sad, 4pm Sul a Llun.
Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth?
Gallwch chi wisgo sbectol o dan y penset VR, ond efallai y bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio gwisgo eich sbectol yn ystod y profiad.
Beth yw'r mesurau iechyd a diogelwch?
Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd i unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, ffitiau, salwch teithio neu lewygu.
Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.
Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.
Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys pensetiau a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnwn i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo rydyn ni'n ei ddarparu wrth gyrraedd.
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.
Ni chaniateir babis mewn sling yn y profiad.
Ni fydd unrhyw gwesteion sy'n cyrraedd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn gallu cymryd rhan.