Ers sawl blwyddyn, mae Compagnie DK-BEL wedi bod yn cyflwyno sioeau sy’n cynnwys dawnswyr sydd ag anableddau a rhai sydd heb. Yn aml iawn, yr adborth gan y gynulleidfa yw: “Mae’n brydferth...”
O syniad y bardd Charles Baudelaire o Harddwch yn gysylltiedig â’r rhyfedd fel man cychwyn, i hynodrwydd, i anrhefn, i boen ac eiddilwch Bodau Dynol, Mae C’est BEAU! yn archwilio sut mae Harddwch yn gallu bod yn sianel rhwng emosiwn personol, cyfunol a hyd yn oed cyffredinol.
Mae’r darn yma yn cynnig gweledigaeth addfwyn ac anghydffurfiol o Harddwch, wedi’i benthyg o’r syniadau gwahanol yma a’i pherfformio mewn symbiosis gyda chanfyddiadau ei gynulleidfaoedd.
Amser dechrau: 8pm
Hyd y perfformiad: 1 awr
Canllaw oed: 14+
Hygyrchedd: Sain Ddisgrifiad gan Alastair Sill
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £6
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru.
Sain Ddisgrifiad