Rydyn ni’n llawn cyffro i lansio Cymdeithas CMC20; cynllun rhoi sy’n galluogi aelodau’r gymdeithas i ddod yn agosach at hud Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd yn 20 oed.
Rydyn ni’n dathlu 20 mlynedd o Ganolfan Mileniwm Cymru; cartref creadigol i bawb. Ers agor ein drysau yn 2004 rydyn ni wedi tanio’r dychymyg drwy theatr, cerddoriaeth, opera, digwyddiadau cymunedol, cyfleoedd creadigol a phrofiadau digidol o’r radd flaenaf.
Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth pobl fel chi.
Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddathlu 20 mlynedd anhygoel gyda ni drwy ddod yn rhan o Gymdeithas CMC20. Byddwch chi’n ein helpu ni i ysbrydoli ein cenedl – a thu hwnt – am genedlaethau i ddod, tra eich bod chi’n mwynhau profiadau arbennig drwy gydol y flwyddyn. Am gyfraniad o £2,500+ gall aelodau Cymdeithas CMC20 fwynhau holl fuddion lefel Partner Awen, yn ogystal â:
- Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig ychwanegol drwy gydol y flwyddyn
- Arysgrif ar sedd yn ein Theatr Donald Gordon gyda neges o’ch dewis
- Bathodyn CMC 20
- Cydnabyddiaeth ar y safle, yn argraffedig ac ar-lein
- Cerdyn diolch gan y Rheolwr Gyfarwyddwr
I ymuno heddiw neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Cecily Morgan: cecily.morgan@wmc.org.uk
Ymunwch â ni i ddathlu 20 mlynedd o hud, llawenydd a chreadigrwydd.