Breuddwyd un dyn o'r GIG, gyda Michael Sheen.
O ymgyrchu yn y meysydd glo i arwain y frwydr i greu’r Gwasanaeth Iechyd, cyfeirir at Aneurin ‘Nye’ Bevan yn aml fel y gwleidydd sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y DU heb erioed fod yn Brif Weinidog.
Yn wyneb marwolaeth, mae atgofion dyfnaf Nye yn ei arwain ar daith ryfeddol yn ôl drwy ei fywyd; o’i blentyndod i gloddio dan ddaear, Senedd San Steffan a dadleuon gyda Churchill mewn ffantasia Gymreig epig.
"A taut and fluid triumph"
Mae Michael Sheen (Good Omens) yn dychwelyd i chwarae Nye Bevan yn y ddrama yma sy’n ddatganiad dewr a gwerthfawr am y GIG (★★★★ Telegraph). Wedi’i hysgrifennu gan Tim Price (Teh Internet is Serious Business) a'i chyfarwyddo’n ddisglair (★★★★ Times) gan Rufus Norris (Small Island), mae’r dathliad yma o fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ar ôl gwerthu pob tocyn yn 2024.
Cyd-gynhyrchiad National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru
Cast
Gabriel Akamo
Remy Beasley
Matthew Bulgo
Ross Foley
Jon Furlong
Daniel Hawksford
Jason Hughes
Michael Keane
Nicholas Khan
Rebecca Killick
Stephanie Jacob
Kezrena James
Tony Jayawardena
Mark Matthews
Joshua McCord
Hannah McPake
Rhodri Meilir
Ashley Mejri
Lee Mengo
Mali O’Donnell
Sara Otung
Michael Sheen
Sharon Small
Gareth Tempest
CLODRESTR
Cyfarwyddwr – Rufus Norris
Dylunydd Set – Vicki Mortimer
Dylunydd Gwisgoedd – Kinnetia Isidore
Dylunydd Goleuo – Paule Constable
Cyd-Goreograffwyr – Steven Hoggett, Jess Williams
Cyfansoddwr – Will Stuart
Dylunydd Sain – Donato Wharton
Dylunydd Tafluniad – Jon Driscoll
Cyd-Gyfarwyddwr yr Adfywiad – Francesca Goodridge
Castio – Alastair Coomer, CDG, Chloe Blake + Martin Poile
Llais – Cathleen McCarron
Hyfforddwr Tafodiaith – Patricia Logue
Cynghorydd Meddygol Ymgynghorol - Matt Morgan
Dylunydd Goleuo Cyswllt - Lucy Adams
Cyfarwyddwr Staff - Jenny Davies
Cynhyrchydd Gweithredol – Pádraig Cusack
"Throughout it all, Sheen burns with genuine passion"









“What an incredible performance from the master Michael Sheen... Go see it”
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: 2 awr 40 munud yn cynnwys un egwyl
Rhybuddion: Mae’r cynhyrchiad yma wedi’i leoli mewn ysbyty ac mae’n cynnwys cyfeiriadau at gyflyrau a thriniaethau meddygol. Mae hefyd yn cynnwys iaith gref.
Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar Llun 25 Awst (2 bris uchaf)
Aelodaeth
GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Llun – Iau (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp
Dyddiad talu: 7 Ebrill 2025
O DAN 16
Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Llun - Iau)
16–30
Gostyngiad o £8 (3 bris uchaf, Llun - Iau)
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy