Mae Whitney - Queen of the Night yn ddathliad syfrdanol o gerddoriaeth a bywyd un o’r cantorion mwyaf enwog, anhygoel a fu erioed.
Yn syth o’r West End, profwch y sioe deyrnged i Whitney Houston wrth iddi deithio ar draws y DU, gan berfformio dros 100 o gyngherddau bob blwyddyn.
Mae’r ffenomen o gynhyrchiad yma’n cyflwyno cyngerdd gwefreiddiol yn gyson ac wedi cael ei ddisgrifio fel “a powerhouse performance that delivers on every level…”




Bydd y sioe wych yma’n mynd â’r gynulleidfa ar daith hudolus trwy dri degawd o ganeuon enwog, hiraethus, yn cynnwys: I Wanna Dance With Somebody, One Moment In Time, I’m Every Woman, I Will Always Love You, My Love Is Your Love, So Emotional Baby, Run to You, Saving All My Love, How Will I Know, Million Dollar Bill, The Greatest Love Of All, a llawer mwy…
Ymunwch a ni am noson fythgofiadwy wrth i ni dalu teyrnged i’r Frenhines Pop gyda chast anhygoel a band byw arbennig.
Nodwch mai cynhyrchiad teyrnged yw Whitney – Queen of the Night ac nid yw wedi'i gymeradwyo gan Ystad Whitney Houston ac nid yw'n gysylltiedig â hi.
Canllaw oed: ni chaniateir plant o dan 2 oed
Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed, a rhaid iddyn nhw eistedd gyda’i gilydd
Rhybuddion: Yn cynnwys goleuo strôb a chleciadau uchel
Amser cychwyn: 7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 10 munud yn cynnwys un egwyl