Eneidiau coll a rwymwyd gan y môr
Mae llong iasol yn crwydro'r môr diddiwedd, eang, unig a didostur. Mae ei chapten dan felltith i hwylio'n dragwyddol nes y caiff ei achub gan gariad pur.
Senta, a gafodd ei swyno gan hanes dirgelwch y Flying Dutchman a gondemniwyd i hwylio am byth, yw ei unig obaith o gael ei achub. Mae ei dyhead i ffoi yn ymblethu ffawd y ddau mewn ffyrdd na allai'r un ohonynt eu rhagweld.
Mae'r cynhyrchiad gafaelgar hwn o The Flying Dutchman yn ymchwilio i boen dwfn unigrwydd a'r gobaith bregus o gysylltiad dynol. Y môr, a ysbrydolwyd gan brydferthwch hynod arfordir Cymru, yw canfas yr opera, sydd hefyd yn orfodaeth ac yn garchar i'w chymeriadau. Daw offeryniaethau Wagner, o'r agorawd fyddarol i'r ariâu atgofus, yn ganolbwynt y stori, gan ddeffro pŵer y môr a'ch gadael i ymgolli yn ei swyn.
#WNOdutchman
wno.org.uk/dutchman
Cenir yn Almaeneg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Amser dechrau:
Iau 7.30pm
Sul 4pm
Hyd y perfformiad: Oddeutu dwy awr a 40 munud gydag un egwyl
CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU
Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%
Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+, gostyngiad o £4 (prisiau 2 - 5)
Trefnu ymweliad grŵp
YSGOLION
£12.50 - yn berthnasol i seddi penodol (nifer cyfyngedig ar gael). Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
O DAN 16
£10 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn (nifer cyfyngedig ar gael). Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd