Camwch i fyd o angerdd, drama, ac alawon bythgofiadwy gyda Chorws a Cherddorfa WNO am Noson yn yr Opera.
Mae’r cyngerdd swynol hwn yn dwyn ynghyd gasgliad syfrdanol o weithiau mwyaf poblogaidd ac enwog yr opera gan gyfansoddwyr gorau’r byd, gan gynnwys yr Intermezzo cyffrous o Cavalleria rusticana, yr Un bel di (One Fine Day) torcalonnus o hardd o Madam Butterfly, a’r Corws Witches cyfareddol o Macbeth. O ariâu esgynnol i ensembles dramatig, bydd pob darn yn eich cludo i ganol byd cyfoethog ac emosiynol yr opera.
P’un a ydych yn gefnogwr gydol oes neu’n darganfod opera am y tro cyntaf, mae Noson yn yr Opera yn addo noson anhygoel o gerddoriaeth a fydd yn eich swyno. Peidiwch â cholli eich cyfle i brofi’r darnau hyn yn fyw.
Amser dechrau: Fri 7.30pm
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+, gostyngiad o £4 (prisiau 2 - 5)
Trefnu ymweliad grŵp
YSGOLION
£12.50 - yn berthnasol i seddi penodol (nifer cyfyngedig ar gael). Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
O DAN 16
£10 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn (nifer cyfyngedig ar gael). Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd