Y Gorau o bob Byd Bosib
Mae Candide, gan Leonard Bernstein, yn antur wefreiddiol wyllt, lle mae bywyd yn Ffrainc yn ystod y ddeunawfed ganrif yn gwrthdaro â bywyd yn America yn yr ugeinfed ganrif, ar ôl y rhyfel. Cymerwch sedd, a pharatowch eich meddwl am daith droellog wrth i ni ruthro drwy fyd rhyfeddol yn llawn anhrefn - o gestyll yn yr Alpau, daeargrynfeydd yn Lisbon i'r jwngl Amasonaidd y tu hwnt i'r Wladfa.
Oherwydd y gymysgfa o ddawn gyfansoddol Bernstein a ffraethineb cignoeth Dorothy Parker, mae Candide yn waith egnïol sy'n dwyn ynghyd goreuon Broadway, eisin ar gacen opereta a dychan diamser nofel wreiddiol Voltaire. Mae cynhyrchiad clodwiw WNO wedi’i lwyfannu gan dîm penigamp, sy’n rhoi bywyd i'r byd dychmygol ac ecsentrig hwn gyda cherddoriaeth ddiweddar, animeiddiadau, dawns a brathiad gwleidyddol.
#WNOcandide
wno.org.uk/candide
‘An ingeniously witty, all out absurd Candide from WNO’
Yn cynnwys themâu ac iaith a all beri gofid i rai pobl. Gall y sioe hon gynnwys goleuadau sy'n fflachio a bydd un defnydd o effaith goleuadau strôb.
Start time:
Mer + Gwe 7.30pm
Sul 4pm
Hyd y cynhyrchiad: Tua dwy awr a 25 munud gydag un egwyl
CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU
Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%
Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+, gostyngiad o £4 (prisiau 2 - 5)
Trefnu ymweliad grŵp
YSGOLION
£12.50 - yn berthnasol i seddi penodol (nifer cyfyngedig ar gael). Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
O DAN 16
£10 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn (nifer cyfyngedig ar gael). Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd