Archwiliwch a datblygwch eich sgiliau ysgrifennu creadigol gyda chynllun Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu Theatr y Sherman.
Gall unrhyw un rhwng 15 a 18 oed ymuno â ni ar gyfer y gweithdy chwech wythnos yma AM DDIM. Byddwch yn dysgu sut i adrodd eich stori drwy ysgrifennu ar gyfer y theatr. Yn bwysicach na dim, fe gewch chi'r amser, y gofod a'r rhyddid i arbrofi a gweld i ble bydd eich ysgrifennu yn mynd â chi. Mae croeso arbennig i rai sy’n dechrau ysgrifennu!
Cynllun sy’n bosib drwy gefnogaeth hael Sefydliad Moondance
Y MANYLION
Mae’r cwrs yn rhedeg bob dydd Mawrth, 6pm–8pm am chwe wythnos rhwng 10 Mehefin a 15 Gorffennaf. Mae ar agor i bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed.
Nodwch – mae pob sesiwn yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.