Eisiau bod yn gyflwynydd ar orsaf radio ieuenctid lwyddiannus? Radio Platfform yw’r lle i ti!
P’un a wyt ti’n dwli ar droseddau gwir, cerddoriaeth, diwylliant, chwaraeon neu wrth dy fodd yn siarad, bydd y cwrs dau ddiwrnod yma gyda Radio Platfform yn The Factory yn dy helpu i ddod â dy syniadau yn fyw a chreu cynnwys a fydd yn cysylltu â phobl.
Byddwn ni’n dangos i ti sut i greu gwahanol fathau o sioeau radio a phodlediadau, dod o hyd i straeon diddorol, recordio fel rhywun proffesiynol (hyd yn oed o dy ystafell wely) a bod yn hyderus wrth gyflwyno a chyfweld.
Dim profiad? Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer pawb, o ddechreuwyr pur o bobl sydd wrth eu bodd gyda radio neu phodlediadau.
Mae’r cwrs dau ddiwrnod yma yn cael ei gynnal yn The Factory, Porth, fel rhan o’n partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Phlant y Cymoedd. Erbyn y diwedd, byddi di’n aelod o Radio Platfform ac yn cael mynediad i’n stiwdios ym Mhorth a Chaerdydd, a slot i recordio a darlledu dy sioeau dy hun ar ein gorsaf lwyddiannus.
Os oes gen ti rywbeth i’w ddweud, dyma’r platfform i ti.
AM EIN CYRSIAU PLATFFORM
Mae Platfform yn raglen hyfforddi unigryw sy'n cynnig i bobl ifanc y llwyfan i archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, adeiladu hyder greadigol, a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanega dy fanylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.