Eisiau bod yn gyflwynydd ar orsaf radio ieuenctid lwyddiannus? Radio Platfform yw’r lle i ti!
P’un a wyt ti’n dwli ar droseddau gwir, cerddoriaeth, diwylliant, chwaraeon neu wrth dy fodd yn siarad, bydd y cwrs yma yn dy helpu i ddod â dy syniadau yn fyw a chreu cynnwys a fydd yn cysylltu â phobl.
Byddwn ni’n dangos i ti sut i greu gwahanol fathau o sioeau radio a phodlediadau, dod o hyd i straeon diddorol, recordio fel rhywun proffesiynol (hyd yn oed o dy ystafell wely) a bod yn hyderus wrth gyflwyno a chyfweld.
Dim profiad? Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer pawb, o ddechreuwyr pur o bobl sydd wrth eu bodd gyda radio neu phodlediadau.
Erbyn y diwedd, byddi di’n aelod o Radio Platfform ac yn cael mynediad i’n stiwdios a slot i recordio a darlledu dy sioeau dy hun ar ein gorsaf lwyddiannus.
Os oes gen ti rywbeth i’w ddweud, dyma’r platfform i ti.
Y Manylion
Mae’r cwrs yn rhedeg bob dydd Iau, 6pm–8pm am chwe wythnos rhwng 12 Mehefin a 17 Gorffennaf. Mae ar agor i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.
Nodwch – mae pob sesiwn yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Os yw'r cwrs hwn wedi'i werthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn yn cysylltu â chi os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.