Dysga sut i sefyll allan gyda marchnata cyfryngau cymdeithasol yn Platfform!
Wyt ti’n barod i wneud sŵn a chael sylw?
Ymuna â ni ar gyfer cwrs arbennig newydd sbon i ddefnyddio pŵer y cyfryngau cymdeithasol a marchnata i ehangu dy bresenoldeb! Cyfle i ddeall strategaethau brandio, archwilio adnoddau ar-lein dynamig a goresgyn teyrnas y cyfryngau cymdeithasol.
Nid dim ond dysgu yw diben y cwrs yma, ond grymuso! Dysga’r sgiliau a pha adnoddau sydd eu hangen arnat ti i ddisgleirio yn y maes digidol.
Pryd mae'r cwrs?
Mae’r cwrs yn rhedeg bob nos Iau rhwng 6pm a 8pm am chwe wythnos o 6 Mawrth i 10 Ebrill.
Sut ydw i'n Archebu?
Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma.
Beth os oes angen cymorth ychwanegol arna i neu mae gen i anghenion hygyrchedd?
Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol neu sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad byw lle gall fod angen addasiadau, cefnogaeth neu sensitifrwydd.
Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanega dy fanylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.