Mae digwyddiad Dros Nos Canolfan Mileniwm Cymru ‘nôl!
Fel aelod presennol o Platfform rydyn ni’n llawn cyffro i ti ymuno a ni ar 26–27 Ebrill ar gyfer ein digwyddiad cysgu Dros Nos blynyddol lle byddi di’n cael cyfle i gwrdd ag aelodau Platfform eraill, cymryd rhan yn ein gweithdai creadigol a rhyngweithiol am ddim a gweld darn newydd sbon o theatr hip hop yn cael ei berfformio gan gwmni Next Up 2025. Mae’r agenda llawn yn cynnwys popeth, fel bwyd a sachau cysgu, yn barod i ti dreulio’r noson o dan y llythrennau eiconig sy’n addurno blaen Canolfan Mileniwm Cymru.
Edrychwn ymlaen at ddathlu Platfform gyda’n gilydd.
Archeba dy le, e-bostia platfform@wmc.org.uk.
Mae’r cyfnod cofrestru yn cau ar 21 Mawrth 2025. Os oes gen ti unrhyw ymholiadau, cysyllta â platfform@wmc.org.uk