Cyfle i ddatgloi pŵer creadigol Hip-Hop yn y cwrs rhagarweiniol dynamig yma sydd wedi’i gynllunio ar gyfer perfformwyr a phobl frwdfrydig sy’n awyddus i archwilio’r elfennau sylfaenol a sut i’w defnyddio mewn theatr.
P’un a wyt ti’n ddawnsiwr, rapiwr, actor neu’n storïwr, bydd y cwrs yma yn dy arwain di drwy elfennau craidd sef brecddawnsio, graffiti, bod yn DJ a bod yn MC.
Amcanion y Cwrs
- Plymio i mewn i bedair prif elfen diwylliant Hip Hop a’u dylanwad ar berfformiadau cyfoes.
- Dysgu hanfodion brecddawnsio ac ymgorffora rhythm, llif a byrfyfyrio yn dy straeon corfforol.
- Archwilio celf bod yn MC a datblygu sgiliau mewn byrfyfyrio, telynegiaeth a gair llafar i greu naratif dynamig ar y llwyfan.
- Arbrofi gyda graffiti fel dull ar gyfer mynegiant gweledol, gan ddarganfod sut y galli di ei ddefnyddio i gyfathrebu syniadau a themâu yn dy waith theatr.
- Gweithio mewn grŵp i ddatblygu darn theatr Hip Hop, gan uno cerddoriaeth, symudiadau a straeon mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
- Gweithdai Ymarferol: Cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol gydag arbenigwyr o’r gymuned Hip-Hop – brecddawnswyr, DJs, MCs ac artistiaid gweledol – a fydd yn rhannu eu crefft a’u mewnwelediadau.
- Cydweithredu Creadigol: Cyfle i greu darnau gwreiddiol o theatr Hip-Hop ar y cyd gan ymgorffori’r holl elfennau rwyt ti wedi dysgu yn ystod y cwrs.
- Cyd-destun Diwylliannol: Archwilio gwreiddiau Hip-Hop mewn sylwebaeth gymdeithasol, meithrin cymunedau a hunanfynegiant, gan ddeall sut mae wedi esblygu i fod yn ffenomenon byd-eang.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Rydyn ni’n chwilio am rapwyr, actorion, DJs, dawnswyr, cantorion a beirdd rhwng 14 a 25 oed sydd eisiau archwilio’r cyfle unigryw yma i ddatblygu theatr Hip-Hop a bwydo i mewn i Gwmni Next Up. P’un a wyt ti’n brofiadol ym maes Hip-Hop neu’n frwdfrydig dros berfformio ac adrodd straeon ac yn fodlon gwthio ffiniau creadigol, dyma’r cwrs i ti.
Hyd y Cwrs
Mae’r cwrs yn rhedeg bob nos Fawrth, 6pm i 8pm rhwng 7 Ionawr a 27 Mai (dim sesiynau ar 15, 22 a 29 Ebrill) a bydd sesiwn arddangos gwaith ar 3 Mehefin. Mae hefyd cyfle i ddod i’n digwyddiad Dros Nos a gweld perfformiad theatr Hip-Hop Cwmni Next Up.
Ar Ddiwedd y Cwrs
Bydd gennyt ti’r sgiliau a’r hyder i ymgorffori elfennau Hip-Hop yn dy waith theatr, gan arwain at sesiwn rhannu. Gad i dy greadigrwydd lifo!
Beth os oes angen cymorth ychwanegol arna i neu mae gen i anghenion hygyrchedd?
Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol neu sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad byw lle gall fod angen addasiadau, cefnogaeth neu sensitifrwydd.
Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archebwch eich lle drwy ebostio platfform@wmc.org.uk (tan 8 Ebrill).
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.