Cyfarchion!
Ar ôl dau dymor llwyddiannus yn y West End, rhediad hir yn The Other Palace ac ennill gwobr WhatsOnStage am y sioe gerdd newydd orau, mae Heathers The Musical, y sioe gerdd roc gomedi ddu sy’n seiliedig ar y ffilm eponymaidd o 1988, yn dychwelyd i Gaerdydd.
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2021/Donald%20Gordon%20Theatre/Heathers/The_cast_of_Heathers_The_Musical_-_UK_Tour_2021_-_Photos_by_Pamela_Raith_2.jpg)
“Sheer joyful exuberance”
Mae Veronica Sawyer o Westerberg High yn un arall o’r bobl dawel anadnabyddus sy’n breuddwydio am ddyddiau gwell. Ond pan mae’n ymuno â’r Heathers prydferth a chreulon ac mae’n bosibl y bydd ei breuddwydion am fod yn boblogaidd yn dod yn wir o’r diwedd, mae’r rebel ifanc rhyfeddol JD yn dangos iddi efallai ei bod hi’n lladdfa i fod yn anweledig ond mae bod yn adnabyddus yn waeth byth.
Llyfr, cerddoriaeth a geiriau gan Kevin Murphy a Laurence O’Keefe
Wedi’i seilio ar y ffilm a ysgrifennwyd gan Daniel Waters.
Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed). Yn cynnwys iaith gref a goleuadau strôb, cyfeiriadau at hunanladdiad ac anhwylderau bwyta, eiliadau o drais, ergydion gwn a goleuadau sy'n fflachio.
Nodwch fod rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau a Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
CYNNIG I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf, Mawrth – Iau (2 bris uchaf)
POBL O DAN 16 OED
Gostyngiad o £10, Mawrth – Iau (2 bris uchaf).
16-30
Gostyngiad o £8, Mawrth – Iau (prisiau 2 + 3).
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.