Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hamilton

26 Tachwedd 2024 – 25 Ionawr 2025

Theatr Donald Gordon

Mae Hamilton, ffenomenon diwylliannol arobryn Lin Manuel Miranda, yn teithio’r DU am y tro cyntaf erioed.

Hamilton yw stori Alexander Hamilton, un o sefydlwyr America: mewnfudwr o India’r Gorllewin a ddaeth yn llaw dde George Washington yn ystod y Chwyldro Americanaidd ac a helpodd i lunio sylfeini’r America rydyn ni’n ei hadnabod heddiw. Mae’r sgôr yn cyfuno hip-hop, jazz, blues, rap, R&B a Broadway – stori America bryd hynny, wedi’i hadrodd gan America heddiw.

Mae gan Hamilton lyfr, cerddoriaeth a geiriau gan Lin-Manuel Miranda; mae wedi’i gyfarwyddo gan Thomas Kail, gyda choreograffi gan Andy Blankenbuehler a goruchwyliaeth gerddorol a threfniannau cerddorfaol gan Alex Lacamoire, ac mae’n seiliedig ar fywgraffiad Ron Chernow o Alexander Hamilton.

Enillydd 11 o Wobrau Tony gan gynnwys y Sioe Gerdd Orau, 7 Gwobr Olivier, Gwobr Pulitzer 2016 ar gyfer Drama a Gwobr Grammy 2016 ar gyfer yr Albwm Theatr Gerdd Gorau.

Argymhelliad oedran: Am fod Hamilton yn cynnwys iaith gref, mae’r sioe yn briodol ar gyfer pobl 10+ oed.

Rhaid bod gan bawb, ni waeth beth yw eu hoedran, eu tocyn eu hunain i fynd i mewn i’r theatr. Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed, a rhaid iddyn nhw eistedd gyda’i gilydd. Ni chaniateir plant o dan 3 oed.

Mae Hamilton yn cynnwys iaith gref, goleuadau strôb, effeithiau mwg a niwl theatraidd, pyrotechneg a chleciau.

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 45 munud yn cynnwys un egwyl

Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm 

Perfformiadau ychwanegol: 
Llun 23 + 30 Rhagfyr 2.30pm
Maw 24 + 31 Rhagfyr 1pm 
Gwe 27 Rhagfyr 2.30pm

Dim perfformiadau 25 + 26 Rhagfyr. Dim perfformiadau hwyrol Maw 24 + 31 Rhagfyr.  

Perfformiadau Iaith Arwyddion Prydain (BSL): Iau 5 Rhagfyr 2.30pm + Gwe 17 Ionawr 7.30pm 

Perfformiadau â Chapsiynau (CAP): Gwe 6 Rhagfyr 7.30pm + Iau 16 Ionawr 2.30pm  

Perfformiadau wedi'u Sain Ddisgrifio (AD): Iau 19 Rhagfyr 2.30pm + Gwe 24 Ionawr 7.30pm

 

GRWPIAU

Grwpiau o 10+, gostyngiad o £5 ar y 2 bris uchaf, Llun i Iau, ac eithrio 16 Rhagfyr - 2 Ionawr. Dyddiad talu grwpiau 13 Mai 2024. Trefnu ymweliad grŵp.

POBL DAN 16

Gostyngiad o £5 ar y 2 bris uchaf, Llun – Iau, ac eithrio 16 Rhagfyr - 2 Ionawr.  Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

POBL 16 - 30 OED

Cynnig arbennig i bobl 16–30 oed, gostyngiad o £10 ar nosweithiau Llun – Mer rhwng 26 Tachwedd a 11 Rhagfyr. Argaeledd cyfyngedig.

YSGOLION

£25 — tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl (ffôn 029 2063 6464)
Ar gael Llun – Iau ar seddi penodol, ac eithrio 16 Rhagfyr - 2 Ionawr. Ddim yn gymwys yn y 3 parth prisiau uchaf.

Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon