Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

A Night At The Musicals

Gyda Welsh of the West End a The Novello Orchestra

20 Gorffennaf 2024

Theatr Donald Gordon

Bydd y cyngerdd arbennig yma, sy’n dathlu 20 mlynedd o Ganolfan Mileniwm Cymru, yn cyflwyno fersiynau cain a soffistigedig o rai o’r caneuon mwyaf poblogaidd o sioeau cerdd sydd wedi ymddangos ar ein llwyfan dros yr 20 mlynedd diwethaf.

O Wicked i Les Misérables, Chicago i Phantom of the Opera a mwy, mae A Night at the Musicals yn cynnwys The Novello Orchestra, un o gerddorfeydd sioe gorau’r byd, sy’n dychwelyd i’w cartref ysbrydol gyda’u brwdfrydedd a’u carisma nodedig.

Mewn noson yn llawn sêr a glamor digywilydd, yn ymuno â’r gerddorfa bydd y grŵp theatr gerdd a sêr Britain’s Got Talent Welsh of the West End, sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u fideos o fersiynau anhygoel o glasuron theatr gerdd a pherfformiadau byw mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall a The London Palladium.

Wedi’i arwain gan David Mahoney. Peidiwch â cholli’r cyngerdd mawreddog yma!

Canllaw oed: 6+ (dim plant dan 2 oed)

Amser cychwyn: 7.30pm

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon