Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Byd o brofiadau ymdrochol

Rydyn ni'n falch iawn i gyhoeddi lansiad ein tymor newydd o brofiadau ymdrochol arloesol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ein gofod arddangos aml-synnwyr wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer gosodweithiau XR (Realiti Rhithwir, Realiti Cymysg a Realiti Estynedig).

Bydd rhaglen y tymor yn archwilio themâu dymuniad, hunaniaeth a hiraeth, gan ddod â phum comisiwn newydd cyffrous at ei gilydd. Wedi'i leoli ar y llawr gwaelod yn ein hadeilad ym Mae Caerdydd, mae Bocs yn cynnig lleoliad agos ac unigryw ar gyfer y profiadau arloesol yma.

Un o brif uchafbwyntiau'r tymor yw Impulse: Playing with Reality, profiad realiti cymysg 40 munud gan y stiwdio arobryn Anagram, wedi'i adrodd gan Tilda Swinton. Mae'r darn emosiynol yma, a enillodd Wobr Cyflawniad Ymdrochol Fenis, yn archwilio ADHD trwy straeon pwerus pedwar unigolyn, gan herio canfyddiadau a helpu i ddyfnhau dealltwriaeth o'r cyflwr.

"Mae Bocs yn lle mor bwysig i artistiaid a stiwdios fel ein un ni. Mae'n ofod sy’n deall pwysigrwydd arddangos gwaith XR, yn denu cynulleidfaoedd newydd ac yn cefnogi artistiaid arloesol. Rydyn ni'n falch o fod yn rhan o genhadaeth Canolfan Mileniwm Cymru i wneud celf o safon fyd-eang yn hygyrch, yn enwedig trwy eu rhaglenni allgymorth a’u model Talwch Beth y Gallwch. Ar ôl cyflwyno Goliath yn Bocs dair blynedd yn ôl, mae’n wych dychwelyd gydag Impulse i ddechrau'r tymor newydd cyffrous yma."

Kirsty Jennings, Rheolwr Gyfarwyddwr, Anagram

Ymrwymiad i Hygyrchedd a Chynhwysiant

Rydyn ni'n ymrwymedig i wneud Impulse mor gynhwysol a hygyrch â phosib. Er mwyn sicrhau y gall pawb ymweld â'r profiad dylanwadol yma, rydyn ni'n cynnig tocynnau ar fodel Talwch Beth y Gallwch, gydag opsiynau o £2, £5 neu £8. Mae hyn yn caniatáu i ni wneud y profiad yn hygyrch i ystod eang o gynulleidfaoedd, waeth beth fo’u hamgylchiadau ariannol.

Mae ein lleoliad yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, a bydd cynorthwywyr hyfforddedig ar gael i ddarparu cymorth ac arweiniad i unrhyw un sydd eu hangen yn ystod y profiad.

“Wrth i ni ddechrau ein trydedd flwyddyn o raglenni ymdrochol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, rydyn ni'n llawn cyffro i lansio ein tymor 2025–2026. Rydyn ni wedi gwahodd artistiaid sydd â gwaith sy'n archwilio croestoriad celf, adrodd straeon a thechnoleg, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddod â’r profiadau arloesol yma i’n cynulleidfaoedd. Mae Bocs yn parhau i fod yn le lle mae straeon cyfranogol sy'n cael eu rhannu yn ysgogi deialog ac yn gwahodd pawb i gyfrannu at y profiad.”

David Massey, Uwch-Gynhyrchydd, Profiadau Digidol

Tymor o adrodd straeon ymdrochol arloesol

Yn Bocs, rydyn niin parhau i archwilio ffyrdd newydd o adrodd straeon trwy dechnoleg ymdrochol. Ar gyfer tymor 2025–2026, rydyn ni'n cyflwyno cyfres o brofiadau dewr sy'n gwthio ffiniau, gan gynnwys premiere Prydain o Monsieur Vincent, taith ymdrochol i fyd emosiynol celf Vincent van Gogh, Ceci est mon coeur gan Nicolas Blies and Stéphane Hueber-Blies, archwiliad aml-synnwyr o daith plentyn wrth iddo gymodi â'i gorff, ac Earths to Come gan Rose Bond, darn theatr VR cymunedol wedi’i ysbrydoli gan farddoniaeth Emily Dickinson. Rydyn ni hefyd yn dod â fersiwn wedi'i ailddychmygu o’r gwaith arobryn In Pursuit of Repetitive Beats nôl, gan Darren Emerson ac East City Films, gan wahodd cynulleidfaoedd i ail-fyw sîn parti Acid House gwefreiddiol 1989.

Profiadau i Ddod yng Nghanolfan Mileniwm Cymru:

Ymunwch â ni yn Bocs

Rydyn ni'n eich gwahodd i gamu i fyd adrodd straeon ymdrochol yn Bocs. P'un a ydych chi'n archwilio ADHD trwy Impulse, yn ymweld â byd emosiynol celf van Gogh, yn darganfod stori gariad unigryw yn Ceci est mon coeur, neu'n ail-fyw y sîn parti yn In Pursuit of Repetitive Beats, mae Bocs yn cynnig ffordd newydd gyffrous o brofi celf. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu ac allwn ni ddim aros i rannu'r cynyrchiadau arloesol yma sy'n herio meddwl gyda chi.

Darganfyddwch y tymor newydd