Wedi’i adrodd gan Tilda Swinton, mae Impulse: Playing with Reality yn brofiad naratif realiti cymysg rhyngweithiol 40 munud am Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) a sut rydych chi’n gwneud synnwyr o’r byd o’ch cwmpas, sy'n cael ei gyflwyno drwy straeon pedwar person sy’n dod i delerau gyda’r penderfyniadau sydd wedi ffurfio eu bywydau.
Enillydd Gwobr Cyflawniad Ymdrochol Fenis yng 81ain Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis.
Impulse: Playing with Reality gan Anagram, cyd-gynhyrchwyd gan Floréal a France Télévisions.
Datganiad y creawdwyr
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i ni gredu ein bod ni i gyd ar lwybr o hunanddarganfod. O fewn y pentyrrau o wybodaeth sy’n cael eu rhannu, mae tomen cynyddol yn ymwneud ag ADHD. Mae rhai yn dathlu’r ymennydd galaeth creadigol, ond i’r rhai sydd heb gymorth neu sy’n cael eu diystyru’n hawdd fel esgeulus, diog ac a bod yn onest “anghynhyrchiol”, gall ADHD arwain at fywyd o ddioddefaint. Mae un o bob pedwar o garcharorion yn y DU yn debygol o fod ag ADHD. I lawer, mae diagnosis yn epiffani sy’n datgelu’r rhwystrau anweledig maen nhw wedi bod yn eu brwydro.
Gan weithio gyda niwrowyddonwyr a seicolegwyr, gwnaethom ni gasglu 100+ o oriau o gyfweliadau â phobl ar ben pellaf y sbectrwm. Gwnaethom ni chwilio am gysylltiadau barddonol i’w cyfieithu i stori ymgorfforedig gyfoethog. Siaradodd gêm llawn adrenalin â’r ymennydd anghenus â llai o ddopamin. Mae realiti cymysg yn chwarae â’ch perthynas eich hun a’r hyn sy’n gyfarwydd ac yn newydd. Drwy fewnwelediad i’r hyn a allai achosi’r gweithredoedd yma, rydyn ni’n gobeithio meithrin dealltwriaeth ddyfnach o brofiad bywyd ADHD.
Amseroedd agor:
Ar agor yn ddyddiol o 11am gyda slotiau amser bob awr.
Cliciwch ar ‘Dod o hyd i docynnau’ i weld amseroedd manwl a’r argaeledd presennol.
Hyd y profiad:
40 munud. Dylech gyrraedd o leiaf 10 munud cyn dechrau eich sesiwn
Talwch beth y gallwch: £2, £5 neu £8. Mae hwn yn brofiad realiti ymdrochol sydd â nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch ymlaen llaw i osgoi siom ar y diwrnod.
Rhybudd cynnwys: Mae’r profiad yma yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio; cyfeiriadau at hunanladdiad, trais a’r bendro, meddyliau hunanladdol a hunan-niweidio. Nid yw’r profiad yma yn addas i blant o dan 13 oed nac unigolion sydd ag epilepsi ffotosensitif.
Ni argymhellir VR i blant o dan 10 oed. Ewch i dudalen gwybodaeth am ddiogelwch Meta Quest i gael rhagor o wybodaeth. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.
BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?
Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.
Oes angen archebu lle?
Oes, mae hwn yn brofiad realiti ymdrochol sydd â nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch ymlaen llaw i osgoi siom ar y diwrnod.
OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?
Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.
Ydy’r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig?
Ydy. Mae’r profiad yn cynnwys chwarae gemau cyflym, a all fod yn llethol o rai defnyddwyr. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) fel y gallwn ni ddarparu ar eich cyfer.
BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?
Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.
Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.
Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.
Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 10 oed. Ewch i dudalen gwybodaeth am ddiogelwch Meta Quest i gael rhagor o wybodaeth.
Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.
Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.