Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch o gyflwyno Owain & Henry, gyda Michael Sheen. Mae’r cynhyrchiad beiddgar ac uchelgeisiol hwn yn dod ag un o uchafbwyntiau hanesyddol mwyaf diffiniol Cymru’n fyw ar lwyfan Theatr Donald Gordon.
Wedi’i ysgrifennu gan y dramodydd Cymreig clodfawr Gary Owen ac yn serennu Michael Sheen fel Owain Glyndŵr, bydd y ddrama epig hon yn olrhain y gwrthryfel chwedlonol yn erbyn Brenin Harri IV – pennod hanfodol yn hanes Cymru – ac yn cael ei dangos am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2026 fel cyd-gynhyrchiad gyda Welsh National Theatre.
Mae’r cynhyrchiad arloesol hwn yn rhan o’n cenhadaeth barhaus: cysylltu Cymru â’r byd drwy straeon eithriadol. Mae Owain & Henry yn parhau â’n traddodiad balch o hyrwyddo lleisiau Cymreig a chyflwyno gwaith Cymreig o safon fyd-eang sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol fel ei gilydd. Er bod ei raddfa a’i uchelgais greadigol yn golygu ei fod yn foment arwyddocaol i theatr yng Nghymru, mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaol i feithrin straeon sy’n siapio ac yn mynegi ein hunaniaeth genedlaethol.
“Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi ymrwymo i weithio gydag artistiaid i adrodd straeon pwerus sy’n syfrdanu ac yn ysbrydoli. Mae Owain & Henry yn adeiladu ar ein hymrwymiad i gynhyrchu theatr o ansawdd uchel ac yn cefnogi artistiaid Cymreig a’r rhai sy’n byw yng Nghymru i fod yn uchelgeisiol yn eu gwaith. Yn 2024, daeth cynulleidfaoedd o 28 o wledydd i weld Nye, ac roedd 25% o’r gynulleidfa gyfan erioed wedi mynychu sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o’r blaen. Bydd y cyd-gynhyrchiad hwn gyda Welsh National Theatre yn rhannu stori eiconig arall sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn ein hunaniaeth a’n hanes cenedlaethol; allwn ni ddim aros i rannu’r profiad gydag cynulleidfeydd ledled y byd.”
Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig a Chreadigol Canolfan Mileniwm Cymru

“Mae Owain & Henry yn un o straeon gwreiddiol ein cenedl, mor berthnasol yn y byd cymhleth sydd ohoni heddiw ag yr oedd pan gyhoeddodd Glyndŵr annibyniaeth Cymru chwe chant o flynyddoedd yn ôl. Mae drama Gary Owen yn un o’r rhai mwyaf uchelgeisiol i mi ei ddarllen; ac yn fwyaf a mwyaf beiddgar ei yrfa. Dyna’r meincnod creadigol ac uchelgais rydyn ni am ei osod gyda Welsh National Theatre. Mae’r model cyd-gynhyrchu hwn yn addas i’n cam cynnar o ddatblygiad, ac mae’n gyffrous bod Canolfan Mileniwm Cymru yn ymuno â ni ar y daith hon.”
Michael Sheen, Cyfarwyddwr Artistig Welsh National Theatre

Mae Owain & Henry yn rhan o’n strategaeth ehangach i gynhyrchu a chefnogi cynyrchiadau mawr dan arweiniad Cymreig sy’n denu cynulleidfaoedd gartref a thramor. O feithrin talent i ddod ag eiconau hanesyddol Cymru i’r llwyfan, rydym yn parhau i greu gwaith sy’n torri tir newydd ac yn rhoi Cymru ar fap diwylliannol y byd.
Ynghyd â’r cynhyrchiad hwn, bydd Welsh National Theatre hefyd yn cyflwyno Our Town – cyd-gynhyrchiad gyda Theatr y Rose. Caiff y ddrama arobryn gan Thornton Wilder, enillydd Gwobr Pulitzer, ei hail-ddychmygu mewn cyd-destun Cymreig, gyda Michael Sheen yn cymryd rôl rheolwr llwyfan, Francesca Goodridge o Abertawe yn cyfarwyddo, a Russell T Davies yn ymuno fel Cyswllt Creadigol. Bydd y cynhyrchiad yn agor yn y Grand Abertawe, yn teithio i Ogledd Cymru ac yn cloi yn Llundain.
Gyda’i gilydd, mae’r cynyrchiadau hyn yn nodi dechrau pennod newydd gyffrous i theatr yng Nghymru. Maent yn adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer golygfa gelfyddydol fywiog ac agored, wedi’i gwreiddio yn ein diwylliant ond wedi’i chreu ar gyfer y byd.
Bydd tocynnau Owain & Henry ar werth i Aelodau Canolfan Mileniwm Cymru o 4 Awst ac i’r cyhoedd cyffredinol o 8 Awst.