AR WERTH HAF 2025
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch i gyhoeddi Owain & Henry, cynhyrchiad newydd uchelgeisiol sy’n dod ag un o’r straeon sy’n diffinio Cymru yn fyw ar y llwyfan.
Mae Owain & Henry yn ddrama newydd epig gan Gary Owen, a bydd ei fesur diodl yn bywiogi gwrthryfel yr herwr Owain Glyndŵr yn erbyn coron Lloegr yn ystod y 15fed ganrif.
Bydd Michael Sheen yn chwarae’r Tywysog Cymru olaf i gael ei eni yma, yn gwrthdaro â’r Brenin Harri IV mewn brwydr a allai arwain at ryddid i Gymru a diwedd Lloegr.
Bydd Owain & Henry yn agor yn Theatr Donald Gordon ym mis Tachwedd 2026 gyda thocynnau yn mynd ar werth yn ystod haf 2025. Castio pellach i’w gyhoeddi.
Cyd-gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre.
Mae Michael Sheen yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yr haf yma, gan chwarae rhan Nye Bevan unwaith eto am gyfnod cyfyngedig rhwng 22 a 30 Awst 2025.
Archebwch docynnau ar gyfer Nye, cyd-gynhyrchiad National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru wedi'i ysgrifennu gan Tim Price.