Galli di newid a dylanwadu ar beth sy’n digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru drwy ddod yn rhan o’n Criw Ieuenctid.
Mae’r Criw Ieuenctid yn gweithio gydag adrannau, yr uwch-dîm arwain ac aelodau o’r bwrdd i hysbysu, dylanwadu a chreu newid yn y sefydliad – a galli DI fod yn rhan ohono.
Mae’r Diwrnod Agored yma yn gyfle i ddysgu mwy am y Criw Ieuenctid – y dyddiadau allweddol, y manteision ychwanegol a’r cyfrifoldebau – a sut i wneud cais, wrth ddysgu am Ganolfan Mileniwm Cymru ei hun. Bydd lluniaeth ar gael, a bydd y diwrnod yn gorffen gydag ymweliad am ddim â Monsieur Vincent!
Pryd?
1.45pm–4pm ddydd Sadwrn 16 Awst, gyda mynediad am ddim i Monsieur Vincent am 4:20pm.
Ar gyfer pwy?
Unrhyw un rhwng 14 a 25 oed sydd eisiau i'w lais gael ei glywed ac sy’n gyfforddus yn gweithio gyda’i gyfoedion i wneud newidiadau mawr.
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.