Datblygwch eich sgiliau darlledu gyda Radio Platfform!
Yn galw ar aelodau Radio Platfform sydd wedi cwblhau ein hyfforddiant rhagarweiniol – mae’r cwrs newydd sbon yma i chi!
Perffeithiwch eich doniau darlledu ac ychwanegwch driciau newydd at eich repertoire! O ddatblygu sioeau cyfareddol i lunio rhaglenni diddorol, creu jingles bachog a meistroli’r ddesg, gallwn ni eich helpu chi. Hefyd, byddwn ni’n cloddio i fyd cyffrous darlledu byw, gan roi adnoddau i chi gyflwyno sioeau byw bythgofiadwy.
Mae’r cwrs dau ddiwrnod yma yn cael ei gynnal yn The Factory, Porth, fel rhan o’n partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Phlant y Cymoedd.
Paratowch i wella eich sgiliau a datgelu eich potensial llawn ar yr awyr!
Mae'r cwrs yma ar gyfer aelodau Platfform, sydd wedi cymryd rhan yn un o'n gweithgareddau blaenorol. Os wyt ti'n aelod o Platfform a hoffai gofrestru, archeba dy le drwy e-bostio platfform@wmc.org.uk.
Ddim yn aelod o Platfform ac eisiau ymuno a chael mynediad llawn at beth rydyn ni'n ei gynnig? Edrycha ar beth sydd ar gael, neu e-bostia platfform@wmc.org.uk os oes gen ti unrhyw gwestiynau.