Mae Academi Next Up ‘nôl. Yn uwch. Yn fwy beiddgar. Ac yn fwy.
Mae Academi Theatr Hip-Hop Platfform yn barod i ddychwelyd, wyt ti’n barod i ymuno â’n mudiad?
P’un a wyt ti’n actor, awdur geiriau, DJ, dawnsiwr, artist, MC neu bît-bocsiwr, Academi Next Up yw dy lwyfan i hogi dy sgiliau a bod yn rhan o fudiad cynyddol o bobl ifanc sy’n defnyddio sgiliau hip-hop i adrodd straeon pwysig. Os yw mynegiant creadigol yn bwysig i ti, dyma dy lwyfan.
Beth sydd wedi’i gynnwys?
· Sesiynau wythnosol yn dechrau ar 9 Medi a fydd yn pori drwy sgiliau hanfodol brêcddawnsio, graffiti, ‘MCing’ a bod yn DJ, yn ogystal â sut i ymgorffori sylfaeni a diwylliant hip-hop mewn perfformiad theatr
· Gweithdai actio i uwchraddio dy sgiliau perfformio gyda darlleniadau sgript byw gan ddramodwyr a chyfarwyddwyr newydd
· Y cyfle i fod yn rhan o gynhyrchiad theatr cyntaf erioed Academi Next Up, cydweithrediad tair ffordd gyffrous rhwng Plant y Cymoedd, Canolfan Mileniwm Cymru a myfyrwyr o Academi Harris yn Peckham.
I bwy mae’r diwrnod?
Rhwng 14 a 25 oed? Mae hwn i ti. Mae Academi Next Up ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwthio ffiniau adrodd straeon drwy hip-hop a theatr.
Felly p’un a wyt ti’n dwli ar theatr sydd eisiau rhoi cynnig ar sgiliau newydd, neu wrth dy fodd gyda hip-hop ac eisiau rhywle newydd i gydweithredu ac adrodd dy stori ar lwyfan, gall Academi Next Up dy helpu.
Sut alla i gymryd rhan?
Ymuna â Diwrnod Agored Academi Next Up gydag ymarferwyr sy’n arbenigo mewn hip-hop a pherfformio.
Dydd Sadwrn 30 Awst, 11am–4pm
Cofrestra nawr i ddysgu mwy am yr Academi, a sut y gallu di fod yn rhan o’n mudiad creadigol o bobl sy’n adrodd straeon.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.