Difas disglair! Golygfeydd marwolaeth dramatig! Nodau uchel doniol!
Dewch i brofi caneuon mwyaf poblogaidd opera a dysgu am y cymeriadau yn y cyflwyniad rhyngweithiol yma gyda Madame Chandelier.
A fyddwch chi’n cwrdd â brenhines ddrwg sy’n canu’n lot rhy uchel, tywysoges sy’n methu stopio crïo, neu offeiriades sydd bob amser ar dân?
Gallai unrhyw beth ddigwydd mewn parti opera, ac mae croeso i chi ymuno!
“Expert timing. Madame Chandelier is smart, has empathy, and can sing”
“Infectiously bonkers”
“Phenomenal… a true diva”
Amser dechrau: 3.30pm, drysau 2.30pm
Oed: 5+ (Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn)
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
PLANT, POBL ANABL + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.