Y sioe deulu perffaith ar gyfer yr ifanc ac ifanc eu hysbryd.
Yn cynnwys cerddoriaeth ogoneddus o'r llwyfan a’r sgrin, y sioe deuluol ryngweithiol ac addysgol hon yw’r cyflwyniad perffaith i fyd bendigedig opera a cherddoriaeth glasurol.
Yn dod yn fyw drwy ein cyflwynydd cyfareddol, Tom Redmond, a Cherddorfa a Chorws uchel eu bri WNO, byddwn yn mynd â chi ar antur gerddorol, ac ni all dim eich cyfyngu ond eich dychymyg.
Bydd y sioe yn cynnwys addasiad cerddorol Ian Stephens o’r llyfr, We’re Going on a Bear Hunt a ‘O sole mio’, a chafodd ei berfformio yn enwog gan Pavarotti ac sy'n adnabyddus iawn ar am ei ddefnydd o fewn cyfres o hysbysebion gan Cornetto. Bydd awyrgylch hamddenol y sioe yn eich caniatáu i ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth a’r ddrama – byddwch yn clapio, dawnsio a chanu yn yr eiliau.

Gweithgareddau am ddim yn y cyntedd
Ymgollwch yn hud cefn llwyfan y byd opera yn ystod ein gweithgareddau am ddim yn y cyntedd, a fydd ar gael o 1pm. Dewch i edrych ar rai o’n gwisgoedd, creu propiau a mwynhewch ein gorsafoedd goleuo a sain. Os nad yw hynny’n ddigon, bydd hyd yn oed helfa drysor.
Amser dechrau: 3pm
Gweithgareddau am ddim yn y cyntedd: o 1pm
Hyd y perfformiad: tua 1 awr a 10 munud heb egwyl
CYNNIG TOCYN TEULU
Prynwch docyn teulu a gallech arbed hyd at 1/3
Teulu o bedwar: £45 (uchafswm o ddau oedolyn)
Teulu o bump: £50 (uchafswm o ddau oedolyn)
Rhaid archebu’r cynnig hwn ar ei ben ei hun – bydd angen prosesu unrhyw docynnau ychwanegol fel archeb newydd.
O DAN 16
Tocyn am £10 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
TOCYN BABANOD
Tocynnau £2 eistedd ar liniau i blant dan 2 oed.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd