Hyfforddiant Radio Platfform dwys AM DDIM yn Y Ffatri, Porth!
Ydych chi’n barod i ryddhau eich creadigrwydd a chreu argraff ar y byd radio a phodlediadau? Ymunwch â ni am gwrs hyfforddi dwys dau ddiwrnod i bobl 11–25 oed yng Nghwm Rhondda – ac mae AM DDIM!
Darganfyddwch y grefft o greu rhaglenni radio a phodlediadau; dysgwch am yr amrywiaeth o gynnwys radio; meistrolwch y sgil o greu a dod o hyd i straeon newyddion cymhellol; ac uwchraddiwch eich recordiadau i safon broffesiynol.
Byddwch chi’n cael profiad ymarferol o gyflwyno, cyfweld a thrafod pynciau sy’n tanio eich brwdfrydedd. P’un a ydych chi wedi hen arfer â radio a phodlediadau neu’n rhoi cynnig ar y cyfrwng am y tro cyntaf, mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i’ch grymuso a’ch ysbrydoli ar bob cam o’r ffordd, waeth beth yw lefel eich profiad.
Cofiwch fod y cwrs dau ddiwrnod yma yn digwydd yn Y Ffatri, Porth, fel rhan o’n partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Phlant y Cymoedd. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch chi’n gallu dod yn aelod o Radio Platfform a defnyddio ein stiwdios ym Mhorth a Chaerdydd.
OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?
Nac oes – mae’r cwrs yma ar agor i bob lefel a gallu.
PRYD MAE’R CWRS?
Mae’r cwrs yn rhedeg am ddau ddiwrnod, rhwng 11am a 4pm ddydd Iau 30 Mai a dydd Gwener 31 Mai.
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archebwch eich lle drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu dod i ddau ddiwrnod y cwrs.
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni cysylltu os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.