Llais yw gŵyl ryngwladol flynyddol Caerdydd wedi’i ysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu bob un ohonom – y llais.
Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim ac â thocyn, mae Llais yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth fyw anturus, perfformiad i ysgogi’r meddwl a phrofiadau chwareus i bawb.
Mae’r ŵyl yn ddigwyddiad uchelgeisiol bywiog sy’n...
Dathlu cerddoriaeth, perfformio a grym a Hud y llais.
Rydym yn rhoi lleisiau ar y rhaglen sy’n tanio emosiwn, herio barn, sy’n gallu ein huno ni, ein hysbrydoli ni, ein lleddfu ni ac ysgogi newid. Mae’r ŵyl yn dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd at ei gilydd dros bedwar diwrnod o gelf, syniadau gerddoriaeth a perfformiadau byw.
galluogi pobl i ddefnyddio eu lleisiau
Mae defnyddio’r llais yn rhan sylfaenol o fywyd. Rydym yn creu cyfleoedd i bobol, waeth beth yw eu cefndir neu brofiad, i gymryd rhan drwy gydol yr ŵyl.
wedi ei wreiddio yng Nghymru a'i olygon yn rhyngwladol
Rydym yn rhoi rhai o leisiau mwyaf arbennig a phwerus o bedwar ban byd ochr yn ochr â’r artistiaid gorau, yn brofiadol ac yn newydd, o Gymru.

Arlo Parks

Hot Chip

Fatoumata Diawara

John Cale

Rachel Chinouriri

Brett Anderson + Paraorchestra

Laura Mvula

Cate Le Bon

John Grant

Rufus Wainwright

Patti Smith

Ibibio Sound Machine

Elvis Costello

Nadine Shah

Passenger

Gruff Rhys

Ionna Lee

Laura Marling

Billy Bragg

Van Morrisson

Charlotte Church
annog meddwl agored
Rydym yn cynnig prosiectau, perfformiadau a syniadau sy’n diddanu ac yn cyffroi ond hefyd sy’n gwthio ffiniau, herio doethineb confensiynol ac yn annog meddwl creadigol. Rydym yn gwneud hyn ddigwydd trwy...
- Groesawu lleisiau o bob disgyblaeth, genre a chefndir. O artistiaid grime i gorau polyffonig, adrodd stori i osodiadau sain, ac o opera ymgolli i farddoniaeth pync - dathlu llais yn ei holl ffurfiau sy’n gwneud Gŵyl y Llais mor unigryw.
- Comisiynu gwaith newydd. Trwy gydweithio a phartneriaethau rydym yn cyflwyno gwaith newydd gan rai o artistiaid mwyaf adnabyddus y byd, ac yn denu cynulleidfa ryngwladol i Gaerdydd ar gyfer perfformiadau unwaith mewn bywyd.
- Rhoi cyfleoedd i artistiaid Cymreig dorri tir newydd. Rydym yn annog lleisiau diffiniol Cymru i fentro’n greadigol, i brofi a datblygu syniadau, i gydweithio ac i hyrwyddo’r gwaith maen nhw’n ei garu.
- Cryfhau lleisiau artistiaid a siaradwyr. Rydym yn darparu llwyfan ar gyfer syniadau a lleisiau arloesol, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu clywed yn aml neu nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol. Rydym yn galluogi pawb i fynegi eu hunain; i glywed a chael eu clywed.
- Tyfu, datblygu a dysgu. Gan adlewyrchu ar y ddau ddigwyddiad cyntaf yn 2016 a 2018, mae Llais bellach yn ŵyl flynyddol, wedi ei osod wrth galon rhaglen flynyddol Canolfan Mileniwm Cymru. Gyda band arddwrn newydd sy’n rhoi mynediad i bob man, bydd cynulleidfaoedd yn gallu darganfod byd o leisiau, crwydro rhwng lleoliadau a phrofi byd newydd.
- Cysylltu gydag artistiaid a rhwydweithiau diwydiant. Trwy weithio gyda phrosiectau fel BBC Horizons, rydym yn chwilio am artistiaid sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru ac o Gymru ac i roi llwyfan rhyngwladol arbennig iddynt. Mae Llais yn falch o fod yn digwydd yng Nghaerdydd, Dinas Gerdd gyntaf y DU, ac i allu dathlu a chyfrannu at y ganolfan greadigol yma.
- Gweithio gyda sefydliadau celfyddydol ieuenctid a grwpiau cymunedol. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol, mae Llais yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc lleol i guradu, cynhyrchu, datblygu a pherfformio gwaith creadigol. Rydym yn cydnabod y gall y broses o gynllunio a chyflwyno gŵyl fel hyn fod yr un mor werthfawr â’r digwyddiad ei hun.
- Cyflwyno profiadau byw a digidol sy'n annog cyfranogiad. O berfformio rhyngweithiol i drafodaeth agored, mae Llais yn datblygu ei sgyrsiau a’i drywydd o ran hybu cyfranogiad, gan gydnabod, mai trwy siarad â’r presennol a dychmygu’r dyfodol, gall ein llais cyfunol fod yn gryfach