Daeth pedair o hoff wyliau Cymru – Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth – ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021.
Roedd hi’n ŵyl ar-lein am ddim yn llawn dop â cherddoriaeth a chomedi cofiadwy, ac fe gofleidiodd amrywiaeth a deialog.
Fel pob gŵyl gwerth ei halen, roedd Gŵyl 2021 yn ddathliad o artistiaid cyfarwydd ac yn llwyfan i leisiau eclectig a newydd, o Gymru a thu hwnt.
Ymhlith artistiaid yr ŵyl roedd Cate Le Bon mewn cydweithrediad â Gruff Rhys, yr arobryn Kiri Pritchard-McLean, Tim Burgess’ Listening Party, a Catrin Finch; yn ogystal â BERWYN (BBC Music Sound of 2021), Carys Eleri (Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)), Arlo Parks a Dani Rain, sef drymiwr y grŵp Neck Deep.

Jaffrin

Faith

Arlo Parks

Cate Le Bon

Brett Anderson

Dhun Dhora

Jukebox Collective

Bhekizizwe

Charlotte Adigéry

Sprints

Faith

Luke RV

King Khan

Aleighcia Scott

Reuel Elijah
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill, roedd Charlotte Adigéry yng Ngwlad Belg, Adwaith – y grŵp ‘post-punk’ a enillodd Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Sinead O’Brien y Wyddeles sy’n fardd ac yn arloeswr ‘art rock’ a Jordan Brookes enillydd Gwobr Comedi Caeredin; Ani Glass a enillodd wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn, Sprints y grŵp o Ddulyn, N’Famady Kouyate – y cerddor o Gini, sy’n byw yng Nghaerdydd, a’r grŵp sgetsh Tarot.
Fe guradodd y cwmni dawns Jukebox Collective berfformiadau gan yr artist reggae Aleighcia Scott, yr artist RnB/canu enaid Faith, y rapiwr King Khan, y canwr a rapiwr Reuel Elijah a’r artist gair llafar Jaffrin Khan a rhagor.
Fe gyflwynodd Radio Platfform Next Up sef casgliad o egin artistiaid Hip Hop a Rap yn ne Cymru.
Cafwyd hefyd perfformiad ecsgliwsif, unigryw gan Brett Anderson, Charles Hazlewood a’r Paraorchestra, yn cyflwyno’r gwestai arbennig Nadine Shah, yn ogystal â phenodau arbennig o’r podlediad comedi Welcome to Spooktown ac I Wish I Was an Only Child, gydag ambell i westai gwadd Cymreig cyfarwydd.
Fe ddarlledwyd Gŵyl 2021 ar www.bbc.co.uk/gwyl2021 dros benwythnos 6-7 Mawrth 2021.