Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd mwyaf cyfeillgar y DU, ac weithiau mae'n teimlo mwy fel tref cosmopolitaidd na phrif ddinas.
Gyda maes awyr rhyngwladol gerllaw a chysylltiadau trafnidiaeth gwych i Lundain a gweddill y byd, mae'n lleoliad perffaith i chi ymgartrefu ac adeiladu gyrfa.
Mae Caerdydd wedi'i lleoli rhwng arfordir treftadaeth Morgannwg a'r llwybr arfordirol cyntaf i amgylchynu gwlad gyfan (870 milltir o hyd) a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - a enwebwyd yn un o'r gorau yn Ewrop ac sy'n Warchodfa Awyr Dywyll.
Wrth deithio tu hwnt i'r ddinas am tuag awr, gallwch ddod o hyd i draethau tawel o safon fyd-eang, sy'n berffaith ar gyfer syrffio, cerdded a thorheulo ym Mhenrhyn Gŵyr a thu hwnt yn Sir Benfro.
Hanes a threftadaeth
Wedi'i adeiladu ar safle Caer Rhufeinig, ar un pryd roedd Caerdydd yn un o borthladdoedd prysuraf Prydain ac yn arloesi gydag allforio glo. Ysgrifennwyd y siec gyntaf am £1m yma yng Nghyfnewidfa Lo Caerdydd.
Mae olion treftadaeth diwydiannol Caerdydd yn dal i'w gweld, ond mae Bae Caerdydd wedi trawsnewid dros y blynyddoedd.
Mae'r bae - datblygiad glannau mwyaf Ewrop - bellach yn forlyn caeedig sy'n berffaith ar gyfer hwylio a chwaraeon dŵr. Ar hyd y glannau mae Mermaid Quay - ardal o siopau, a bwytai - tafliad carreg o Ganolfan Mileniwm Cymru, adeilad eiconig y Pierhead a'r Senedd.
Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu cyflymaf yn Ewrop, ac mae hi'n ddinas gyfeillgar, amlieithog. Fe glywch y Gymraeg a llawer o ieithoedd eraill wrth i chi grwydro o amgylch y ddinas.
Mae hi'n brif ddinas amlddiwylliannol, gyda 94 iaith wahanol yn perthyn i'r ddinas - diolch i'r nifer helaeth o bobl a ddaeth i ddociau hanesyddol y ddinas yn y 1800au, pan oedd y diwydiant glo yn ei anterth.
Siopa
Yn ogystal â holl siopau arferol y stryd fawr, mae Caerdydd yn adnabyddus am ei arcêds Fictoraidd ac Edwardaidd – sy'n llawn dop o siopau annibynnol - fel Spillers Records – siop recordiau hynaf y byd, sy'n lle gwych i bori drwy gasgliadau o recordiau finyl.
Os ydych chi'n hoff o bethau 'vintage', yna mae Cardiff Indoor Flea Market (Tremorfa) yn berffaith ar eich cyfer. Gallwch ddod o hyd i wneuthurwyr annibynnol hefyd yn the Boneyard (Treganna), Bridge Studios (Ely) a Pipes Beer.
Teithio o amgylch y ddinas
Mae hi'n hawdd teithio o amgylch Caerdydd - ar droed, feic neu drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Dyma ddinas fechan sydd â Pharc Biwt yn ganolbwynt hyfryd.
Mae Taith Taf yn llwybr perffaith ar gyfer cerdded, rhedeg neu seiclo, sy'n mynd o ogledd i dde'r ddinas, ac mae llwybrau trafnidiaeth cyhoeddus yn ehangu drwy'r amser.
Ymarfer corff
Mae gan Gaerdydd fwy o ofod gwyrdd nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU, gyda digonedd o barciau a gofodau agored, a'r Afon Taf yn cyrlio drwy galon y ddinas.
Stadiwm Principality (ein stadiwm genedlaethol) yw'r unig leoliad o'i faint yn Ewrop i gael ei leoli yng nghanol dinas, ac mae ganddo gapasiti i 76,000 o gefnogwyr rygbi. Mae diwrnod gêm fawr yng Nghaerdydd yn brofiad rhyfeddol - gydag awyrgylch carnifal ar bob stryd.
Ac os ydych chi'n dilyn y criced, yna ewch am dro lawr Cathedral Road i Erddi Sophia, cartref Criced Morgannwg a lleoliad gyda 16,000 o seddi.
Mae digonedd o ddigwyddiadau lleol hefyd – i chi eu gwylio ac i gymryd rhan. Mae timau lleol poblogaidd yn cynnwys Cardiff City (pêl-droed), y Cardiff Devils (hoci iâ), a'r Maindy Flyers (seiclo).
Bywyd nos
Mae lleoliadau gwych o bob maint yn ein dinas. Yn ogystal â darparu llwyfan i chwaraeon mae Stadiwm Principality hefyd yn lleoliad ar gyfer gigs enfawr, ac mae sêr fel Beyoncé, Madonna a'r Rolling Stones wedi perfformio yno. Ac o fewn tafliad carreg mae'r Motorpoint Arena, sydd â chapasiti o 5,000, lle gallwch wylio gigs a sioeau comedi gwych.
Os oes well gennych chi leoliadau llai, yna mae Heol y Santes Fair yn gartref i nifer o fariau, clybiau nos a nifer o fariau coctels gwych.
Neu, am brofiad amgen, mae Womanby Street yn gartref i sefydliadau annibynnol y ddinas, megis Clwb Ifor Bach, The Moon, Fuel a Tiny Rebel.
Diwylliant a Chreadigrwydd
Os ydych chi'n ysu am ddiwylliant, mae gwledd yn aros amdanoch chi - o amgueddfeydd i theatrau.
Dewch o hyd i gynyrchiadau o safon fyd-eang, dramâu sy'n procio'r meddwl, cabaret hwyliog a Gŵyl y Llais, yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru - ac mae llu o gynigion gwych i staff.
Rydyn ni hefyd yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.
Mae lleoliadau eraill gwych yn cynnwys Neuadd Dewi Sant, New Theatre, Theatr y Sherman, Chapter a nifer o glybiau comedi a theatrau llai, fel The Other Room, theatr dafarn Caerdydd.
Os ydych chi'n greadigol, efallai hoffech chi fynd am dro i Printhaus, Twin Made, Ffotogallery a the Sustainable Studio. Am ganllaw i gymuned greadigol Caerdydd, ewch i wefan Caerdydd Creadigol.
Rydyn ni wrth ein boddau yn byw ac yn gweithio yma yng Nghaerdydd, a gobeithiwn y byddwch chithau hefyd yn mwynhau ein dinas. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Gaerdydd a Chymru drwy wefan Croeso Cymru.