CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol.
Hijinx
Hijinx yw un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop, sy'n creu perfformiadau rhagorol gydag artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ar lwyfan ac ar sgrin, i Gymru ac i’r byd.
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu dawns gwych gyda phob math o bobl, ac ar gyfer pob math o bobl o wahanol lefydd.
Two Rhythms
Mae Two Rhythms, a elwid gynt yn Touch Trust, yn elusen celfyddydau hygyrch sy’n darparu rhaglenni addysgol a therapiwtig er lles pobl sydd ag anableddau corfforol a dysgu dwys.
Tŷ Cerdd
Mae gan Tŷ Cerdd gylch gwaith cenedlaethol a rhyngwladol ac mae'n rhan arwyddocaol o hyrwyddo a dathlu datblygiad cerddoriaeth Gymreig.
Urdd Gobaith Cymru
Mae Urdd Gobaith Cymru yn rhoi cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan eu galluogi nhw i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau.
Opera Cenedlaethol Cymru
Cenhadaeth Opera Cenedlaethol Cymru yw dod â phŵer, drama ac emosiwn amrwd opera i gynulleidfa mor eang â phosibl mewn perfformiadau wedi eu nodweddu gan ymchwil digyfaddawd am ansawdd artistig.