Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dyma'n uwch dîm rheoli; y bobl y tu ôl i'r penderfyniadau.

Mathew Milsom – Prif Weithredwr

Mathew Milsom
Mathew Milsom

Brodor o Gaerdydd yw Mathew Milsom a ymunodd â Chanolfan Mileniwm Cymru yn 2006 fel ymgynghorydd ar ôl cyfnod o redeg cwmni llwyddiannus ei hun yn ymgynghori busnesau.

Fel Cyfarwyddwr Cyllid, sicrhaodd sefydlogrwydd ariannol y busnes, gan ei wneud yn un o brosiectau'r mileniwm mwyaf llwyddiannus a ariannwyd gan y Loteri. Daeth Mathew yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2013 cyn dod yn Brif Weithredwr yn 2024. 

Mae Mathew wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl Caerdydd a Chymru gyfan yn cael y budd cyhoeddus mwyaf posib o'r Ganolfan.

Mae hefyd yn angerddol dros ymestyn gorwelion pobl ifanc trwy'r celfyddydau, yn arbennig y rheiny sy'n dod o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae hefyd yn credu y dylai Canolfan Mileniwm Cymru arwain y ffordd. O ganlyniad i hynny, mae'r Ganolfan bellach yn rhannu arferion gorau yn y celfyddydau, yn ogystal â sectorau busnes eraill, gan gynnwys gweithgynhyrchu, yn arbennig yn y maes cynaliadwyedd.

Mae Mathew yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion.

Graeme Farrow – Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys

Graeme Farrow
Graeme Farrow

Dwi’n gweithio fel prif swyddog creadigol a chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru ar hyn o bryd, ac yn gyfrifol am ein strategaeth greadigol, ein rhaglen a’n gwaith gydag artistiaid, cymunedau a phobl ifanc. Dwi’n ceisio gwneud lle i bobl hadrodd eu straeon a dod o hyd i’w llais creadigol, gan eu gwahodd i danio eu dychymyg mewn cartref creadigol i bawb.

Ers ymuno â Chanolfan Mileniwm Cymru fel cyfarwyddwr artistig yn 2014, dwi wedi ail-lunio’r ganolfan gelfyddydol fel cynhyrchydd yn ogystal â chyflwynydd gwaith. Mae ein cynyrchiadau wedi cynnwys City of the Unexpected ar gyfer canmlwyddiant Roald Dahl gyda National Theatre Wales, Gŵyl y Llais, The Boy with Two Hearts ac yn fwyaf diweddar Nye gyda’r National Theatre, yn serennu Michael Sheen.

Dwi wedi blaenoriaethu’r broses o ddatblygu a mabwysiadu modelau newydd o gyfranogi gyda phobl ifanc a chymunedau ac ar hyn o bryd rydyn ni’n addasu gofodau ar ein safle i greu stiwdios newydd a fydd yn cael eu rhedeg gan bobl ifanc i bobl ifanc.

Mae gen i ddiddordeb mewn archwilio straeon a chreu gwaith gan ddefnyddio technoleg ymdrochol ac rydyn ni’n dylunio adeilad newydd a fydd yn cefnogi hyn ac yn darparu hwb cynhyrchu newydd ar gyfer ein gwaith ac i Gymru.

Cyn symud i Gymru, roeddwn i’n gynhyrchydd gweithredol yn gyfrifol am ddylunio a chyflwyno rhaglen artistig Dinas Diwylliant Cyntaf y DU yn Derry-Londonderry lle buais i’n rheoli digwyddiadau a phrosiectau ar raddfa fawr gan gynnwys The Return of Colmcille gyda Frank Cottrell Boyce a Walk the Plank a’r Wobr Turner y tu allan i Loegr am y tro cyntaf yn ei hanes.

Yn 2006 des i’n gyfarwyddwr gŵyl gelfyddydol fwyaf Iwerddon, sef Gŵyl Belfast yn Queen’s, ac yna des i’n bennaeth diwylliant a chelfyddydau ym Mhrifysgol Queen’s gyda chyfrifoldeb ychwanegol dros sinema ac oriel. Fi oedd rhaglennydd Gŵyl Ffilmiau cyntaf Belfast,  a derbynnydd cyntaf gwobr Unigolyn Celfyddydol y Flwyddyn Gogledd Iwerddon.