Yn galw ar artistiaid ifanc – taniwch eich creadigrwydd gyda’n cyrsiau a gweithdai am ddim.
Ydych chi’n angerddol dros radio, am roi cynnig ar greu ffilmiau, awydd actio neu am weithio yn y maes digidol? Beth bynnag y maes creadigol rydyn ni yma i'ch helpu!
Arweinir ein cyrsiau creadigol gan arbenigwyr y diwydiant ac arweinwyr y sector, megis Promo Cymru a Welsh Games Academy. Mae’r cyrsiau’n rhoi mynediad at sgiliau arbennig a chyngor heb ei ail. Ac yn fwy na hynny, mae nifer o’r cyrsiau yn cynnig achrediad sy’n cael ei gydnabod yn broffesiynol, gan roi hwb i'ch siwrnai greadigol.
Ydych chi am glywed gan y rheiny sydd wedi profi ein cyrsiau? Mae cannoedd o bobl ifanc 11 – 25 oed wedi datblygu sgiliau creadigol, cael profiadau ymarferol ac wedi datblygu cysylltiadau a chyfleoedd creadigol.
![Dyfyniad gan Molly Palmer, cyn-Gydlynydd Stiwdio, Radio Platfform: "Mae fy mhrofiad a'r hyfforddiant wedi newid fy mywyd."](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Young%20Creatives/Creative%20Voice/Creative_voice_quotes_Welsh_v17.jpg)
![Dyfyniad gan un o raddedigion Llais Creadigol: "Fe wnes i ennill llawer o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn fy helpu gyda chyfweliadau a sqyddi yn y dyfodol."](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Young%20Creatives/Creative%20Voice/Creative_voice_quotes_Welsh_v1.jpg)
![Dyfyniad gan un o raddedigion Radio Platfform: "Pan ddechreuais i, plentyn swil o'n i oedd ddim yn siarad â neb; nawr does gen i ddim ofn gwneud sioe o flaen pawb."](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Young%20Creatives/Creative%20Voice/Creative_voice_quotes_Welsh_v13.jpg)
![Dyfyniad gan un o gyfranogwyr Dros Nos: "Cyfle unwaith mewn oes a phrofiad fydda i fyth yn ein anghofio."](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Young%20Creatives/Creative%20Voice/Creative_voice_quotes_Welsh_v14.jpg)
![Dyfyniad gan un o gyfranogwyr Life Hack: "Digwyddiad anhygoel. Dw i'n caru pa mor gynhwysol yw e. Rydyn ni angen mwy o ddigwyddiadau fel hyn."](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Young%20Creatives/Creative%20Voice/Creative_voice_quotes_Welsh_v15.jpg)
![Dyfyniad gan aelod o'r Criw Ieuenctid: "Fy nod personol yw ceisio addysgu pobl am bwysigrwydd y Gymraeg yn y celfyddydau."](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_484,q_auto:eco,w_860/v1/WMC%20Content/Young%20Creatives/Creative%20Voice/Creative_voice_quotes_Welsh_v18.jpg)
CYRSIAU AR Y GWEILL
Mae niferoedd yn gyfyngedig i 12 cyfranogwr, felly peidiwch ag oedi, archebwch le am ddim:
Gwiriwch yn ôl yn fuan.
Os yw'r cwrs wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
Byddwch yn mynychu ein cyrsiau mewn ystafelloedd diogel â’u hadeiladwyd yn bwrpasol, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’n chwaer orsaf yn Y Porth, neu ar-lein drwy gyfrwng ystafelloedd hyfforddi Zoom.
Cynhelir y rhaglen ar hyd y flwyddyn, a chyn hyn mae pynciau wedi cynnwys ysgrifennu creadigol, sgrin a ffilm, graffiti, argraffu â sgrin, creu nofel graffig, cynhyrchu radio, gemau chwarae rôl, theatr ieuenctid, breg-ddawnsio, hip-hop a chynllunio gwisgoedd. Cynhelir nifer fechan o’r cyrsiau gyda thiwtoriaid a gweithwyr proffesiynol sy’n siarad Cymraeg.
I BWY MAE’R CYRSIAU LLAIS CREADIGOL?
Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un 11–25 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd ar lefel sylfaenol. Mae’r cyrsiau wedi’u hanelu at y rheiny sydd ar gychwyn eu taith, neu sydd am ailgydio’n eu sgiliau.
Rydyn ni’n gweithredu rhaglen gynhwysol ac yn sicrhau bod ein cyrsiau’n agored i bawb. Os hoffech chi gymryd rhan ond bod angen cefnogaeth hygyrchedd ychwanegol arnoch peidiwch ag oedi rhag cysylltu – e-bostiwch addysg@wmc.org.uk.
Pwy sy’n arwain y cyrsiau?
Yn ogystal ag arweinwyr a gweithwyr llawrydd y diwydiannau creadigol rydyn ni hefyd yn cydweithio â phartneriaid i gyflwyno cyrsiau sydd wedi’u teilwra’n arbennig, gan roi’r hyfforddiant gorau yng Nghymru i chi. Mae’r rhain yn cynnwys: