Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Yn cyflwyno Lola eich sioeau prynhawn ganol wythnos!

Gyda thaith newydd sbon o Kinky Boots yn brasgamu o amgylch y DU ac Iwerddon, mae Newtion Matthews yn gwireddu breuddwyd wrth chwarae rhan y Frenhines Ddrag, Lola, ym mherfformiadau prynhawn Caerdydd.

Mae e’n edmygu’r cymeriad yn fawr, ac yn dweud: "I’r rheiny sydd heb gyfarfod yr amryddawn, ardderchog Lola eto, mae hi’n berten fach bryfoclyd, yn frwydrwr, yn amymddiheurol ddu ac yn anymddiheurol cwiar. Mae hi’n wych."

 

Gyda sgôr gan Cyndi Lauper a llyfr gan Harvey Fierstein, mae Kinky Boots yn seiliedig ar y ffilm o’r un enw o 2005 (a gafodd ei ysbrydoli gan stori wir). Yn dilyn cyfnod cyn-Broadway yn ninas Chicago, fe agorodd y sioe yn Broadway yn 2013 ac yn y West End yn 2015. Mae’r sioe, sydd wedi ennill gwobrau Tony, Olivier a Grammy, hefyd wedi ymddangos ar lwyfannau yng Nghanada, Asia, Awstralia, Seland Newydd ac Ewrop, ac wedi teithio ledled UDA a’r DU.

Wedi’i gynhyrchu gan ROYO a Curve, mae’r cynhyrchiad Made at Curve newydd hwn yn teithio’r DU ac Iwerddon tan ddiwedd Gorffennaf ac wedi’i gyfarwyddo gan Nikolai Foster. Mae’r stori’n canolbwyntio ar Charlie Price, sy’n profi anawsterau yn ei fywyd a’i berthynas ar ôl iddo etifeddu ffatri esgidiau aflwyddiannus ei deulu yn Northampton. Yna, ar hap, mae’n cyfarfod y frenhines ddrag, Lola, unigolyn disglair, ffraeth mewn sodlau simsan, sy’n cynnig ateb posib i drafferthion busnes Charlie.

 

Fe enillodd y sioe Wobrau Tony ar gyfer Sioe Gerdd Orau a Sgôr Wreiddiol Orau i Cyndi Lauper, yn ogystal â gwobr Actor Gorau i Billy Porter am ei bortread o Lola yn Broadway. Fe enillodd wobr Sioe Gerdd Newydd yng Ngwobrau Olivier hefyd, gyda Matt Henry yn ennill gwobr Actor Gorau mewn Sioe Gerdd am ei bortread o Lola mewn cynhyrchiad yn y West End.

Mae’n dipyn o beth i olynu Billy a Matt, ond mae Newtion wrth ei fodd yn cerdded yn ôl traed y ddau. "Er nad ydyn ni wedi cyfarfod erioed, dw i’n ystyried Billy Porter yn fodryb i mi, ac mae Matt Henry yn frawd i mi yn y diwydiant hwn. Roedd Matt wrth fy ochr yn y swydd gyntaf ges i yn Shakespeare’s Globe ar ôl gadael y coleg drama, felly dw i wedi’i ’nabod e am flynyddoedd ac wedi ei wylio’n chwarae rhan Lola yn y West End."

Ymhlith gwaith blaenorol Newtion mae Once on This Island, Get Up Stand Up a Camelot in Concert. Dyma’i dro cyntaf yn Kinky Boots. "Ond roeddwn i bob amser yn dyheu am gael chwarae Lola. Mi faswn yn dweud celwydd petawn i’n dweud bod dim nerfusrwydd o gwbl. Ond, mae’n gyffrous iawn cael cyfle i fynd i’r afael â’r rhan – a rhoi cig ar yr asgwrn a mwynhau’r her a’r gogoniant i gyd."

Sut beth yw gwisgo’r sodlau uchel? Mae Matthews yn gwenu. "Dw i wedi gwisgo sodlau uchel ambell i dro cyn bod yn rhan o Kinky Boots, gan gynnwys mewn dosbarthiadau fel dawnsiwr. Bellach, cryfhau’r fferau ac ymarfer y corff yw’r peth pwysicaf fel fy mod i wir yn gallu mynd amdani yn yr esgidiau."

Mae’r stori’n cyffwrdd ar brofiad personol i’r actor, sy’n dweud: "Dw i’n gwybod popeth am fod yn blentyn cwiar na gafodd ei dderbyn a’i gofleidio bob amser, ac a dyfodd yn llanc ifanc a dyn na chafodd ei dderbyn a’i gofleidio bob amser. Yn y cyfnod yma o’m mywyd, y peth pwysicaf yw deall bod angen i mi dderbyn fi fy hun yn gyntaf." 

Mae e’n gwenu eto. "Dyna un o’r pethau dw i wedi cymryd o’r sioe hon. Y brif neges yw: peidiwch â bod ofn bod yn anymddiheurol, ac os ydych chi’n gynghreiriad peidiwch â bod ofn bod yn gefnogol. Efallai nad ydyn ni’n edrych fel ein gilydd, ond mae gan bob un ohonom ni ddealltwriaeth o’r profiad dynol. Mae angen i ni beidio beirniadu’n gilydd a dysgu derbyn ein gilydd."

Mae Dan Partridge yn chwarae rhan Charlie Price ac yn dweud am y sioe: “Y prif beth a apeliodd ata i oedd y ffordd mae’r sioe yn archwilio ac yn datgymalu hunaniaethau gwrywaidd. Mae’n rhywbeth dw i’n eithaf angerddol amdano – y ffordd mae dynion yn cyfathrebu â’i gilydd a’r ffordd mae dynion yn uniaethu mewn cymuned."

Yn y stori mae Charlie yn ddyn ifanc dosbarth gweithiol sy’n cael agoriad llygad ar ôl cyfarfod Lola ar hap. Mae e’n gweld hi’n perfformio mewn clwb yn Llundain ac yn cael syniad o farchnad unigryw ar gyfer sodlau uchel sydd wedi’u creu yn arbennig ar gyfer breninesau drag. "Felly mae dau gymeriad o ddau begwn gwbl wahanol yn y sioe," meddai Dan, "ac fe weli di sut mae dau fyd yn gallu dod at ei gilydd a sut maent, neu’n wir, sut rydym ni, yn gallu dysgu oddi wrth ein gilydd."

Mae’r actor wedi cydweithio â Nikolai o’r blaen, pan chwaraeodd ran Magaldi yn Evita a Danny Zuko yn Grease, ac mae e’n canmol y cyfarwyddwr i’r cymylau. "Roedd cydweithio gydag e yn atyniad mawr i mi hefyd. Mae e’n gadael i ti gydweithio, fel actor, yn hytrach na – fel mae llawer o gyfarwyddwyr yn ei wneud – dweud wrthot ti yn union beth i’w wneud. Mae e fel petai ni’n creu rhywbeth gyda’n gilydd, ac mae e wir yn gadael i ti gael llais."

Pan ddaw at gymeriad Charlie, mae Partridge yn dweud: "Mae e’n gymhleth. Pan fyddwn yn ei gyfarfod does ganddo ddim meddwl uchel iawn o’i hun, yna drwy gydol y sioe, mae e’n darganfod ei hyder. Mae ganddo feddylfryd plwyfol, ond mae’n dysgu i agor ei feddwl a’i galon. Unwaith mae’n cyfarfod Lola, mae ei fyd yn troi ben i weired, ac mae e’n gymeriad gwych i’w chwarae, achos mae gymaint o sylwedd iddo." 

Mae gwaith blaenorol Dan yn cynnwys Cats a Hairspray ar daith a Mamma Mia! yn y West End, felly mae e’n gyfarwydd iawn â theatr gerdd. Wrth ofyn iddo beth sy’n gwneud Kinky Boots yn arbennig, mae e’n gwenu: "Fel dywedodd Cyndi wrtha i am y sioe, mae fel moddion hapus, sy’n gwneud i bobl fod eisiau gweld y sioe eto ac eto. Mi rwyt yn gweld ochr hyll rhagfarn, ac yna rwyt yn gweld fod gan bawb yr hawl i uniaethu fel y maent am wneud. Mae’r daith honno’n hyfryd iawn."

Chwaraeir rhan Lauren, sy’n anlwcus yn ei pherthnasau ac sy’n ffansio Charlie, gan Courtney Bowman. "Bydd llawer iawn o bobl yn gallu uniaethu â Lauren," meddai Courtney am y cymeriad, "yn enwedig os ydynt wedi cael adegau trist iawn yn eu bywyd carwriaethol. Mae hi’n ferch dosbarth gweithiol sy llawer o sbort, mae e fel dal drych ac edrych arna i fy hun, ac mae hynny’n golygu fy mod yn cael llawer o hwyl yn ei chwarae hi. Mae hi braidd yn od ar adegau, yn lletchwith ac yn wahanol."

A hithau wedi ennill gwobr WhatsOnStage ar gyfer Perfformiwr Gorau mewn Sioe Gerdd ar gyfer Legally Blonde, mae hi hefyd wedi serennu yn Pretty Woman, Six ac Everybody's Talking About Jamie. Fe chwaraeodd hi ran Lauren mewn fersiwn cyngerdd o Kinky Boots ac mae’n chwerthin wrth ddweud: "Roedd hynny’n benwan achos cwta wythnos oedd gyda ni i roi’r sioe at ei gilydd. Yna pan berfformion ni’r sioe, roeddwn i’n rhedeg o ochr y llwyfan i ddarllen y sgript cyn rhedeg yn ôl allan i berfformio eto. Mae’n braf nawr, cael treulio mwy o amser gyda Lauren, oherwydd fe alla i wir fynd dan groen y cymeriad."

Beth mae Bowman yn meddwl sy’n gwneud Kinky Boots yn ddarn mor wych o theatr gerdd? "Yn un peth, mae geiriau a cherddoriaeth wych Cyndi. Yna mae llyfr Harvey, sydd â chymaint o galon a phlwc. Dwi  wrth fy modd gyda’r ffordd mae Nikolai wedi tynnu’r cyfan yn ôl i ffocysu ar y stori graidd. Bydd pawb yn gadael y theatr wedi’u cyffwrdd ac yn hapusach."

Mae’r themâu, fe deimla, yn rhai oesol. "Mae’n mynd i’r afael â rhagfarn a homoffobia, ond mae e hefyd yn trafod teulu a derbyniad. Mae gan bawb bâr o fŵts y maent yn delio â nhw, pa un ai yn llythrennol neu’n drosiadol. Mae’r neges o oddefgarwch a hunan-gred yn cael ei gyflwyno’n wych drwy gerddoriaeth Cyndi a deialog Harvey."

Dyna’r pethau a ddenwyd y coreograffydd Leah Hill. "Fe wnaeth y stori, y gerddoriaeth a’r neges fy nhynnu i at y sioe,” meddai hi. "Mae’n glyfar iawn yn y ffordd y mae’n herio cynulleidfaoedd i siarad fwy am bethau penodol, pa un ai a yw hynny am rywioldeb, hunaniaeth, rhywedd, hil, cymunedau a diwylliannau gwahanol.  Y peth hyfryd am theatr yw ei fod yn blatfform i gychwyn sgyrsiau."

Fe gafodd Hill fuddugoliaeth yn y Black British Theatre Awards ar gyfer ei gwaith coreograffi proffesiynol cyntaf gyda diwygiad Hope Mill Theatre o The Wiz. Mae ei gwaith blaenorol arall yn cynnwys Beautiful: The Carole King Musical a Fiery Angel, ac roedd hi’n goreograffydd cynorthwyol ar y ffilmiau hynod boblogaidd Wicked ac Aladdin.

Dyma yw’r her gyda Kinky Boots: "Roedd y cynhyrchiad gwreiddiol mor wych, nes ei fod yn gwneud i ti feddwl, ‘Beth alla i ei ychwanegu?' Ond, dw i’n cael ei deilwra’n benodol i’r actorion dw i’n cydweithio â nhw, ac mewn rhai ffyrdd mae arddull Nikolai yn fwy greddfol. Mae’r fersiwn yma’n ddehongliad Newydd, felly rydym yn creu ieithoedd gwahanol ar gyfer y cymunedau gwahanol yma o bobl."

Fe ychwanega bod y gerddoriaeth yn amhrisiadwy. "Mae’n hudolus, ac mor gyffrous. Mae hi’n sioe mor dwymgalon, a’r hyn rydym ni’n ceisio’i wneud o fewn hyn ydi cael pobl i dalu sylw go iawn i’r geiriau. Dw i’n teimlo fy mod yn gallu cyfrannu at hynny gyda’r symudiadau, gan godi pethau penodol."

Mae’r sioe wedi’i gosod yng nghanol y 2000au, cyn dyfodiad RuPaul's Drag Race a chyn i ddrag ddod yn fwy amlwg yn y brif ffrwd. "A doedd e ddim mor gaboledig ag yw e nawr, i raddau," noda Leah, "felly mae hynny’n rhywbeth diddorol i’w archwilio. Bryd hynny, roedd y risg gymaint yn fwy i berfformwyr drag – roedd hi ychydig yn fwy peryglus, efallai, i’r cymunedau hynny berfformio ac roeddwn i am dalu teyrnged i hynny. Mae drag wedi cyrraedd lle anhygoel, ond mae’n bwysig dangos lle cychwynnodd y cyfan."

Cyfweliad gan Simon Button

Daw Kinky Boots i Gaerdydd 18 – 22 Mawrth. Bydd Newtion Matthews yn chwarae Lola yn ystod perfformiadau’r prynhawn, am 2.30pm, 19 + 20 Mawrth. Dod o hyd i docynnau.