Yn Stiwdio Scratch, rydym nawr yn arddangos “Teithiau” – Arddangosfa Newydd Grymus gan Platfform. Dewch i weld deg darn o ffotograffiaeth a thestun sydd yn arddangos creadigrwydd anhygoel ein haelodau Platfform.
Am chwe wythnos, cynhaliwyd sesiynau nos gyda 10 bardd a 11 ffotograffydd datblygol, gan eu cefnogi wrth iddynt feistroli eu crefft ac archwilio'r thema Teithiau. Arweiniwyd yr artistiaid Gair Llafar gan Tia-zakura Camilleri, yn ymchwilio'r ffurf farddol, a sut i ddefnyddio geiriau a churiadau i adrodd eu straeon drwy ‘flowetry’. Yn y cyfamser, cafodd ein ffotograffwyr eu huwchsgilio mewn technegau a mynegiant ffotograffig gan Peter Britton, a'u cyfarwyddo'n greadigol gan Joe Andrews wrth iddynt lywio ymateb i friff unigryw creadigol; teithiau ein beirdd eu hunain.
Mae’r canlyniad yn arddangosfa gydweithredol sy’n cyflwyno'r gymuned newydd hon o bobl greadigol ac yn dathlu pŵer adrodd straeon mewn gwahanol ffurfiau celf.
Cafodd Teithiau ei lansio’n swyddogol ddydd Iau 17 Gorffennaf, gan groesawu dros 50 o westeion i noson anhygoel o berfformiadau byw, rhwydweithio, a chipolwg cyntaf ar yr arddangosfa.
Mae'r arddangosfa bellach ar agor i'r cyhoedd yn Stiwdio Scratch. Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y straeon pwerus yma eich hunain, ac ni allwn aros i weld beth sydd i ddod nesaf gan bobl greadigol Platfform... maen nhw 'mond yn dechrau.