Dewch i gael eich ysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y celfyddydau y gwanwyn yma wrth i ni ddathlu creadigrwydd Cymreig gyda llwybr rhyngweithiol am ddim o amgylch ein hadeilad.
Casglwch daflen o’r ddesg wybodaeth a theithiwch drwy ein hadeilad eiconig i ddarganfod chwe arddangosyn sy’n cynnwys artistiaid Cymreig sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Byddwch chi hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am ein cyrsiau a gweithdai am ddim yn Platfform, sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc.
Unwaith y byddwch chi wedi dod o hyd i bob un, ewch yn ôl i’r ddesg wybodaeth i gael stamp a fydd yn rhoi gostyngiad o 10% i chi yn Ffwrnais, ein bar-caffi.

Am her ychwanegol, rydyn ni hefyd wedi cuddio chwe eitem Gymreig i chi ddod o hyd iddyn nhw o fewn pob un o’r arddangosion.
Cofiwch hefyd edrych ar ein gosodwaith yn Glanfa sy’n dathlu traddodiadau artistig a diwydiannol Cymru sydd wedi cynnau ton newydd ffrwydrol o greadigrwydd. Mae wedi’i ysbrydoli gan y gerdd Gymraeg ganoloesol Cad Goddeu, lle mae’r bardd yn galw ar natur a’r elfennau i roi awdurdod i’w crefft.

Mae sain ddisgrifiadau o’r arddangosion i gyd ar gael – gofynnwch am chwaraewr sain wrth y ddesg wybodaeth.