Premiere byd o berfformiad amlddisgyblaethol ac arloesol yw Flight of the Phoenix, sy’n plethu cerddoriaeth a straeon wedi’u hysbrydoli gan fywyd ac etifeddiaeth Abey Mirza, cantores Hazara o Affganistan, ac wedi’u hailddychmygu drwy lais ac arddull Elaha Soroor (The Boy with Two Hearts).
Bydd tîm artistig unigryw yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys Elaha Soroor, Joost Hendrickx ar yr offerynnau taro, Josh Middleton ar yr allweddellau ac aelodau o’r Oasis One World Choir. Bydd pob artist yn dod â’i dalentau a safbwyntiau unigryw i'r prosiect, gan greu tapestri cyfoethog o sain a naratif.
Fel rhan o’r perfformiad cerddorol, bydd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru 2022, yn adrodd straeon o gadernid a goroesi. Bydd ei straeon yn ehangu dealltwriaeth y gynulleidfa o’r heriau mae artistiaid benywaidd wedi eu hwynebu drwy hanes. Bydd y straeon, fel y gerddoriaeth, wedi’u hysbrydoli gan fywyd Abey Mirza ond byddan nhw hefyd yn cynnwys themâu ehangach o wytnwch a dadeni, yn debyg i daith y ffenics.
Clodrestr
Awdur y Stori ac Adroddwr y Stori | Hanan Issa
Cyfarwyddwr, Cyfansoddwr a Chantores | Elaha Soroor
Cyd-Gyfansoddwr: Adran Rhythm | Joost Hendrickx
Cyd-Gyfansoddwr: Acordion | Josh Middleton
Côr Lleisiol | Oasis One World Choir | Ffion Campbell-Davies | Nazanin Dast-Afkan | Aelod o OOWC
Peiriannydd Sain | Josh Bowles
Cynhyrchydd Llinell | Shayan Ravandoust
Amser dechrau: 8pm
TALWCH BETH Y GALLWCH
Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.