Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Hacio Bywyd

Hacio Bywyd

29 Hydref 2022

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis 2 weithdy gwahanol ar 2 amser gwahanol pan fyddwch chi’n archebu eich tocynnau. Mae’r niferoedd yn gyfyngedig felly dylech chi ond archebu lle os ydych chi'n bendant yn bwriadu dod.

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad Hacio Bywyd rhad ac am ddim eleni fel rhan o Llais i gael profiad ymarferol gan weithwyr proffesiynol creadigol sy’n gweithio mewn diwydiannau amrywiol yma yng Nghymru.

Datblygodd Hacio Bywyd drwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd, ac eleni bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am y tro cyntaf.

Yn ystod y digwyddiad byddwch chi’n gallu gofyn unrhyw beth, fel sut y gwnaeth y gweithwyr ddechrau ar eu gyrfa, cyngor ar sut i ddod o hyd i swydd eich breuddwydion neu sut i roi hwb i’ch gyrfa.

Bydd y diwrnod yn gorffen gyda bwyd am ddim a thocynnau i Flight, profiad ymdrochol unigryw sy’n cael ei gynnal yn ystod Llais.

BETH FYDD YN DIGWYDD?

Mae’r digwyddiad cyfan am ddim ac mae’n cynnwys gweithdai, rhwydweithio, bwyd a thocyn am ddim i’r profiad Flight fel rhan o’r ŵyl Llais! Dewch i gael eich ysbrydoli i roi hwb i’ch gyrfa yn y diwydiannau creadigol.

AR GYFER PWY MAE'R DIGWYDDIAD?

Os ydych chi rhwng 14 a 25 oed, dewch i gwrdd â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a chymerwch ran yn ein gweithdai rhyngweithiol a chreadigol am ddim. Rydyn ni’n gweithio gydag arbenigwyr o feysydd ysgrifennu caneuon i theatr, animeiddio i ddawns a mwy.

PRYD?

Bydd ein digwyddiad eleni yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 29 Hydref rhwng 2:30 a 7:30pm.