Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd GWOBR GERDDORIAETH GYMREIG eleni yn cael ei gynnal yn fyw o lwyfan Theatr Donald Gordon ac yn agor gŵyl y Llais yn swyddogol.
A blwyddyn yma gallwch chi fod yno yn gwylio perfformiadau gan rai o'r artistiaid sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae tocynnau ar gael am £8 y person, felly archebwch eich un chi a mwynhewch y digwyddiad cerddoriaeth Gymreig yma.
Wedi’i sefydlu yn 2011, mae Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn dathlu’r gerddoriaeth gorau o Gymru neu gan Gymry ledled y byd.
Gydag ymrwymiad i amrywiaeth a chynhyrchu cain, bydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn parhau i hyrwyddo cerddoriaeth newydd gorau Cymru.
Mae’r wobr yn agored i albymau o bob genre ac mae enillwyr y gorffennol wedi cynnwys Kelly Lee Owens, Adwaith, Boy Azooga, Deyah, Gruff Rhys, Gwenno a mwy.
Rhestr Fer 2022
Art School Girlfriend - Is It Light Where You Are
Breichiau Hir - Hir Oes I'r Cof
Buzzard Buzzard Buzzard - Backhand Deals
Carwyn Ellis & Rio 18 with the BBC National Orchestra of Wales - Yn Rio
Danielle Lewis - Dreaming In Slow Motion
Don Leisure - Shaboo Strikes Back
Manic Street Preachers - The Ultra Vivid Lament