-
Mer 9 Hydref
Wrth i lefelau’r môr godi a thanau gwyllt losgi, mae Only Expansion yn ailgymysgu sain y ddinas o’ch cwmpas i brofi mewn ffordd sonig sut y gallai eich bywyd eich hun newid yn y dyfodol.
Mae llawlyfr prydferth yn eich annog i archwilio’r ddinas, gan ddewis eich llwybr eich hun, tra bod clustffonau ag electroneg wedi’i theilwra yn cipio ac yn trin y synau o’ch cwmpas.

Mae recordiadau maes o gwymp yr hinsawdd yn ymdoddi i’ch amgylchedd, rydych chi’n dechrau clywed eich dinas fel petai dan ddŵr neu wedi’i daro gan wyntoedd anialwch sych. Mae Only Expansion, myfyrdod perfeddol a barddonol am beth mae’n ei olygu i fyw ar blaned mewn argyfwng, yn cysylltu’r yma â’r rhywle arall, gan adael i chi brofi ein hecoleg glymog drwy sain.
Enillydd – Gwobr Ymdrochol ac XR Gorau Gŵyl Ffilmiau Llundain
Enillydd – Gŵyl Rhaglenni Dogfen Ryngwladol – Gwobr Arbennig y Beirniaid am Waith Ffeithiol Ymdrochol
Clodrestr
Crëwyd gan Duncan Speakman
Cerddoriaeth: Sarah Anderson a Duncan Speakman
Dyluniad y Llyfr: Tom Abba
Cymorth Technegol: Steve Symons
Cynorthwyydd Cynhyrchu: Will Taylor
Dyluniad Lasercut: Fiona Dowling
Datblygwyd Only Expansion gyda chefnogaeth gan Theatre in the Mill Bradford, Celfyddydau a Diwylliant Prifysgol Caerwysg, Lydgalleriet Berfen a Grantiau Prosiect Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Amseroedd agor: 9 – 13 Hydref, 11am – 6pm
Hyd y profiad: 40 munud
Oed: 14+
Mae tocynnau ar gael wrth y drws ar sail talwch beth y gallwch.
Casglwch eich clustffonau o Bocs a rhowch nhw ‘nôl i aelod o staff yn Bocs pan fyddwch chi wedi gorffen.