Mae Lock Off yn ôl! Ymunwch â ni am ddigwyddiad cwbl unigryw, gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.
Gyda mentoriaeth gan arbenigwyr y diwydiant, mae ein pobl ifanc talentog yn arwain, yn curadu, yn trefnu ac yn cyflwyno noson epig o gerddoriaeth MOBO.
Bydd digwyddiad eleni yn cyflwyno lein-yp enfawr sy’n cysylltu genres ac yn dod ag artistiaid o bob cwr o’r DU, gan gynnwys artistiaid newydd o Gymru.
Gardna
Prif artist ein digwyddiad yw Gardna – yr MC a chyflwynydd rhagorol o Fryste. Mae e wedi bod yn rhan flaenllaw o’r sîn Prydeinig dros y blynyddoedd diwethaf ac mae ganddo enw da ymhlith ei gefnogwyr a’i gyfoedion cerddorol am ei allu i greu awyrgylch wych. Mae ganddo hefyd bresenoldeb arbennig ar y llwyfan, ac mae ei sioeau tanbaid yn gwahodd cynulleidfaoedd i gamu i’w fyd ganol nos sy’n llawn synau mawr drwg. Mae ei berfformiadau gafaelgar yn rhyfeddu bob tro ac mae cynulleidfaoedd ledled y DU a’r byd wedi’u profi, mewn canolfannau a gwyliau blaenllaw megis; Boomtown, Outlook, Glastonbury, Shambala a Gŵyl Dub Tokyo i enwi ond ambell un.
Paul Stephan
Paul Stephan yw un o’r artistiaid mwyaf cyffrous ar y sîn heddiw. Mae e’n sianelu egni grime, garage, jungle a breakbeat drwy ei gerddoriaeth, gyda’r gwaith cynhyrchu mwyaf ffres ar sin rap y DU. Yn hanu o Thamesmead, De Ddwyrain Llundain, mae Paul wedi defnyddio ei brofiadau bywyd i greu sonig o ryddid, ac mae e’n gwrthod dilyn y rheolau. Fe werthwyd pob tocyn i’r sioe gyntaf lle y bu’n brif artist, yn Llundain yn 2022. Ac mae ei gerddoriaeth wedi ei chwarae sawl tro ar BBC 1Xtra a Kiss FM.
Jayahadadream
Mae Jayahadadream, enillydd Cystadleuaeth Talent Newydd Glastonbury, 2024, wedi chwarae sawl tro yng Nghaerdydd. Mae hi’n rapiwr Jamaicaidd-Gwyddelig sy’n adnabyddus am ei harddull eofn a mewnsyllgar, sydd wedi’i hysbrydoli gan grime ac amrywiaeth o hip hop. Mae ei sain nodedig yn cyfuno adrodd straeon a pherfformio teimladwy, gan gyfareddu cynulleidfaoedd mewn canolfannau bychain a gwyliau mawr fel ei gilydd. Drwy adrodd straeon yn weledol, mae hi’n gwthio ffiniau artistig tra hefyd yn aros yn ffyddlon i’w gwreiddiau, gan greu sain unigryw a gafaelgar.
Kima Otung
Mae Kima Otung yn Gymraes-Nigeres sy’n artist Pop/R&B cyffrous. Fe ddewiswyd hi i gynrychioli’r “Gorau o Brydain” yn arddangosfa gerddorol Cwpan y Byd FIFA 2022. Mae ei setiau byw ar blatfformau blaenllaw megis BBC Radio 1 a pherfformiadau mewn canolfannau megis Llwyfan Pwysigion Stadiwm Wembley a’r Ballroom yn Arena’r O2 wedi cadarnhau ei henw da fel artist sy’n cyfareddu ei chynulleidfaoedd.
Benny Flowz
Fel un o MCs mwyaf toreithiog De Cymru, mae Benny Flowz yn gyfforddus gydag unrhyw rythm, unrhyw guriad, unrhyw amser. Fe gymerodd ran yn RAP GAME y BBC, fe oedd cynrychiolydd cyntaf Cymru erioed ar y rhaglen. Ers hynny mae e wedi rhyddhau sawl trac ar draws amrywiaeth o genres. Mae e’n dod â’r egni i bob perfformiad, ac mi fydd hyn yn wir o’r perfformiad yma hefyd.
Jessika Kay
Mae Jessika Kay yn artist aml-genre o Gaerdydd, Cymru. Gan ffocysu’n bennaf ar gerddoriaeth Rnb a Neo-Soul, mae hi’n defnyddio’i llais a’i geiriau nefolaidd, llawn enaid i gysylltu â phobl ar draws y byd. Fe gychwynnodd ei thaith yn 2023, ac mae Jessika Kay wedi dangos yn barod ei bod hi’n berfformiwr talentog ac yn gymeriad cryf.
Amser dechrau: 7pm
DJ-KAYBEE 7:00PM
JESSIKA KAY 7:30-7:50PM
BENNY FLOWZ 7:55-8:15PM
KIMA OTUNG 8:20-8:50PM
JAYAHADADREAM 9:00-9:30PM
PAUL STEPHAN 9:45-10:15PM
DJ 10:15-10:45PM
GARDNA 10:45-11:30PM
Canllaw oed: 16+