Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Le Mystère des Voix Bulgares

Le Mystère des Voix Bulgares

12 Hydref 2024

Ar ôl perfformiad gafaelgar yn Eglwys Gadeiriol Llandaf fel rhan o’r Ŵyl y Llais gyntaf yn 2016, mae Le Mystère des Voix Bulgares yn dychwelyd i Gaerdydd gyda chyngerdd newydd o’r enw ‘Voices and Strings’ mewn cydweithrediad â’r cyfansoddwr a’r arweinydd Georgi Andreev a’r cerddorion o Quarto Quartet.

Ensemble lleisiol benywaidd yw Le Mystère des Voix Bulgares a ffurfiwyd yn 1952 fel Ensemble Caneuon Gwerin Radio Cenedlaethol Bwlgaria. Daeth y côr at ei gilydd i recordio caneuon gwerin traddodiadol wedi’u trefnu ar gyfer lleisiau lluosog a fyddai’n cael eu darlledu ar y radio ac yn hwyrach y teledu ym Mwlgaria.

Yn y 1970au cawsant eu gwahodd gan y cynhyrchydd cerddoriaeth o’r Swistir Marcel Cellier i fod yn rhan o albwm o gerddoriaeth werin Bwlgaraidd, Le Mystère des Voix Bulgares. Daeth yr ensemble yn adnabyddus ledled y byd pan wnaeth Ivo Watts-Russell, sylfaenydd 4AD, ailryddhau’r albwm yn 1986. Mae’r gerddoriaeth wedi cael ei chanmol gan artistiaid ar draws genres gwahanol, o Frank Zappa i Kate Bush, Elizabeth Fraser o Cocteau Twins i Linda Ronstadt. Enillodd dilyniant yr albwm, Le Mystère des Voix Bulgares, Vol II, wobr Grammy yn 1989 gyda dau albwm arall yn dilyn yn 1990 a 1998.

Ers llwyddiant y recordiau hynny, mae’r côr wedi mynd ymlaen i berfformio yn rhyngwladol, gan rannu eu sain unigryw a phwerus â’r byd. 

Mae rhaglen ‘Voices and Strings’ yn cynnwys caneuon newydd sbon a gyfansoddwyd ar gyfer y côr a phedwarawd llinynnol gan Georgi Andreev, yn ogystal â chaneuon adnabyddus o repertoire y côr a aildrefnwyd ar gyfer pedwarawd llinynnol gan Andreev. Mae’r cyfansoddiadau newydd yn debyg i arddull polyffonig cyfoethog Le Mystère des Voix Bulgares, a wnaeth y côr, sy’n 70 mlwydd oed, yn enwog ar draws y byd.

MWY GAN LE MYSTÈRE DES VOIX BULGARES

Amser dechrau: 3pm

Hyd y perfformiad: 1 awr a 30 munud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30 

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.