Prosiect clyweledol byw sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng cerddoriaeth, tirwedd, traddodiad a defod yw Llwch a Llechi gan y cyfansoddwr a’r artist amlddisgyblaethol Gwen Siôn, sy’n cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Llais 2024.
Bydd Llwch a Llechi yn cael ei berfformio gan ensemble o ddeg cerddor cerddorfaol, Côr y Penrhyn sef un o gorau hyna’r wlad (a ffurfiwyd yn wreiddiol fel côr chwarelwyr yn Chwarel y Penrhyn ger Bethesda), a Gwen yn defnyddio electroneg fyw, gan gynnwys offerynnau wedi’u creu â’i llaw ei hunan o ddeunyddiau naturiol wedi'u hailgylchu (llechi a choed yw a derw). Mae’r prosiect yn cyfuno elfennau o gerddoriaeth electronig arbrofol, cyfansoddiadau cerddorfaol cyfoes, cyfansoddiadau corawl (o dan ddylanwad traddodiad corau chwarelwyr dosbarth gweithiol y gogledd), recordiadau maes a delweddau symudol i greu perfformiad byw unigryw a deniadol.
Mae Llwch a Llechi yn dwyn ysbrydoliaeth o fotiffau llên gwerin, hanesion cymdeithasol-wleidyddol, treftadaeth ddiwydiannol a’r berthynas ddiwylliannol rhwng cerddoriaeth a thirwedd, a’i gwreiddiau dyfnach yn nhraddodiad llafar Celtaidd Cymru. Mae'r prosiect yn ceisio ail-gyd-destunoli traddodiad drwy lens gyfoes gan ddefnyddio cerddoriaeth electronig arbrofol a thechnegau cyfansoddi cyfoes. Mae’n cyfosod yr hen a’r newydd, er mwyn chwilio am ffyrdd o warchod arferion diwylliannol drwy ganfod dulliau newydd o fynegi, a’u cyflwyno mewn gofodau lle nad ydyn nhw wedi bod yn draddodiadol.
Mae arferion cerddoriaeth arbrofol a sain cyfoes yn aml yn bodoli mewn clybiau nos ac orielau fel rhan o sîn gelf a cherddoriaeth danddaearol; y gweithle oedd gofod traddodiadol y corau chwarelwyr gwreiddiol, oedd yn canu’n ddigyfeiliant ac yn teimlo fel petaent wedi’u gwreiddio yn y traddodiad gwerin; yn hanesyddol, mae cerddoriaeth gerddorfaol fyw yn perthyn i fannau mwy elitaidd sy’n anoddach eu cyrraedd ar gyfer cymunedau gwledig dosbarth gweithiol. Mae’r prosiect yma’n plethu’r cyfoeth yma o linynnau i greu asiad newydd cyffrous.
Amser dechrau: 3pm
Hyd y perfformiad: 90 minutes
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Seddi heb eu cadw ar lwyfan y Theatr Donald Gordon.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.