Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin

Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin

1 Hydref - 3 Tachwedd 2024

Ail-ddeffro'r hanes anghofiedig.

Rydyn ni yn Montgomery, Alabama, yng nghanol taleithiau gwahanedig de’r Unol Daleithiau, ar fws 2.30pm, ar 2 Mawrth 1955. Mae Claudette Colvin, merch Ddu 15 oed, yn gwrthod ildio’i sedd i deithiwr gwyn. Er gwaethaf bygythiadau, mae’n aros yn ei sedd. Ar ôl cael ei thaflu i’r carchar, mae'n penderfynu erlyn y ddinas a phledio'n ddieuog. Ar y pryd, doedd neb byth yn meiddio gwneud y fath beth. Ac eto, does neb yn cofio’i henw.

Mae Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin yn brofiad trochol sydd wedi’i addasu o ysgrif fywgraffyddol, a ysgrifennwyd gan Tania de Montaigne, sy’n olrhain hanes Claudette Colvin a’i thaith o frwydr i gael ei gadael.

Pan ailadroddodd Rosa Parks yr un weithred naw mis yn ddiweddarach, newidiodd popeth. Gyda chefnogaeth gweinidog ifanc a oedd wedi cyrraedd Montgomery yn ddiweddar, sef Martin Luther King Jr., daeth Rosa Parks yn arwres ac yn wreichionen a daniodd y mudiad hawliau sifil. Crëwyd hanes. Claudette Colvin wnaeth y cyfan yn bosib, ond hi yw'r un sydd wedi cael ei hanghofio. Mae hi'n dal i fyw yn yr Unol Daleithiau heddiw, ac yn 83 oed.

Mae Colored yn tynnu'r gynulleidfa i mewn i leoliad a fydd cyn hir yn llawn o ysbrydion Alabama'r pumdegau. Diolch i realiti estynedig, sy’n caniatáu yn fwy na’r un dechnoleg arall i'r presennol gwrdd â'r gorffennol, gall stori Claudette ddod yn stori i ni, gan osod ei hunan yn ein hatgofion fel eiliad 'fyw' yn ein profiad ni ein hunain lle gallwn ni i gyd ddod yn dystion i'r weithred arwrol yma.

Mewn set a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer y profiad, bydd golygfeydd eiconig o fywyd Claudette Colvin yn ystod ei brwydr dros hawliau sifil yn cael eu hailchwarae o flaen eich llygaid. P'un a fyddwch ar eich pen eich hunan neu yng nghwmni rhywun, cewch ymuno â'ch cyfoedion mewn cyd-brofiad.

'Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin', wedi’i gyfarwyddo gan Stéphane Foenkinos a Pierre-Alain Giraud, yn seiliedig ar waith Tania de Montaigne, wedi’i gynhyrchu gan Novaya mewn partneriaeth â'r Centre Pompidou, a’i gyd-gynhyrchu gyda Flash Forward Entertainment (Taiwan).

Enillydd y Wobr am Waith Ymdrochol Gorau y 77fed Festival de Cannes. 

Gyda chefnogaeth

CNC, Canolfan Genedlaethol y Sinema a'r Ddelwedd Symudol

Rhanbarth Auvergne-Rhône-Alpes

Grant Cynnwys Ymdrochol TAICCA ar gyfer Cyd-ariannu neu Gydgynhyrchiadau Rhyngwladol

Y Sefydliad Ffrengig

FACE FOUNDATION fel rhan o'r rhaglen 'French Immersion'.

BPI France

104factory

104 Paris

4DViews

4J

L-Isa

IPLlab (Taiwan)

ROSCO

IRCAM

PIXII

Clodrestr

Tîm Craidd

Pierre-Alain Giraud
Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr

Stéphane Foenkinos
Cyfarwyddwr

Tania De Montaigne
Awdur 

Emanuela Righi 
Cynhyrchydd

Patrick Mao Huang
Cyd-gynhyrchydd

Christa Chen
Cyfarwyddwr Cynhyrchu Taiwan

Mathieu Denuit
Cyfarwyddwr Technegol

Pierre-Luc Denuit 
Peiriannydd Systemau

Valgeir Sigurðsson
Dyluniad Cerddoriaeth a Sain Gwreiddiol

Nicolas Becker
Dylunydd Sain

Philippe Berthomé 
Dylunydd Goleuo

Laurence Fontaine
Dylunydd Set

Chia Hui Wang 
Dylunydd Gwisgoedd

Louis Moreau
Artist 3D

Amseroedd agor Llais:
Mer 9 Hyd 4pm – 8pm (bob awr, mynediad olaf 7pm)
Iau 10 Hyd 11am – 9pm (bob awr, mynediad olaf 8pm)
Gwe 11 – Sul 13 Hyd: 11am – 10pm (bob awr, mynediad olaf 9pm)

Hyd y profiad: 40 munud. Dylech chi gyrraedd 5 munud cyn eich slot er mwyn paratoi. Ni fyddwch chi’n gallu cael mynediad os byddwch chi’n hwyr.

Canllaw oed: 13+
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu hŷn.

Hygyrchedd: Mae hwn yn brofiad sefyll a cherdded 40 munud o hyd sy’n gallu cael ei addasu ar gyfer pobl sydd â thrafferthion symud. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) fel y gallwn ni wneud addasiadau ar eich cyfer.

Rhybuddion: Mae’n bosibl bydd y profiad yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio.

Iaith: Caiff y profiad ei gyflwyno yn Ffrangeg a Saesneg. Byddwch chi’n gallu dewis pa iaith cyn dechrau’r profiad.

O dan 26, Pobl Hŷn, Myfyrwyr ac Anabl

Gostyngiad o £4.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.

Beth yw profiad realiti rhithwir?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

Oes angen archebu lle?

Oes. Mae hwn yn brofiad realiti rhithwir sydd â nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch ymlaen llaw i osgoi siom ar y diwrnod. 

Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth?

Gallwch chi wisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

Beth yw'r mesurau iechyd a diogelwch?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, trawiadau, salwch teithio neu lewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn ni'n glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnwn i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.

Ni chaniateir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni fydd unrhyw westeion sydd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn gallu cymryd rhan yn y profiad.