Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Cate Le Bon

Cate Le Bon

10 Hydref 2024

Mae Cate Le Bon yn dychwelyd gyda pherfformiad arbennig iawn yn Llais eleni.

Yn Pompeii, sef chweched albwm Cate Le Bon a gafodd ganmoliaeth fawr, bu i’r aml-offerynnwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd a chydweithiwr y mae galw mawr amdani (St. Vincent, Wilco, Devendra Banhart, John Grant, H. Hawkline, Deerhunter, Courtney Barnett, Kurt Vile) gyflwyno albwm wedi ei ddal mewn amser. Roedd y caneuon yn teimlo'n uniongyrchol ac yn yr eiliad ond hefyd yn adweithiol ac yn Dada-aidd yn eu hawydd i fod yn chwareus, yn ddychanol ac yn swrealaidd. Mae’r dilyniant i Reward 2019 a enwebwyd am wobr Mercury, yn cynnwys teitl storïol sy’n galw apocalyps, ond mae’r trosiad yn taflu’i gysgod dros unrhyw 'ddadansoddiad o uniongyrchedd,' yn ôl Le Bon. Fel y noda Bradford Cox o Deerhunter yn addas iawn am Le Bon, 'mae yna artistiaid sy'n edrych i mewn neu allan, ac wedyn mae yna rai prin iawn sy'n mynd y tu hwnt i'r naill leoliad neu'r llall.'

MWY GAN CATE LE BON

Amser dechrau: 9pm

Hyd y perfformiad: 1 awr a 30 munud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu drosodd. 

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau 

Archebwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%. 

Archebwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%. 

Wrth brynu ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw'r cynnig yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.