Tra eich bod chi yn eich cyfrif, cliciwch ar y botwm ‘Golygu’ o dan yr archeb yr hoffech ei newid. Ar y sgrin nesaf, byddwch chi’n gallu gweld rhifau seddi eich archeb. I ychwanegu mwy o seddi, cliciwch ar ‘Newid dewis seddi’.
Nesaf byddwch chi’n gweld cynllun llawr y theatr. Gallwch chi chwyddo i mewn ac allan o’r cynllun drwy ddefnyddio’r symbolau plws a minws ar y chwith.
Bydd eich seddi’n ymddangos fel cylchoedd oren. Mae’r cylchoedd lliwgar eraill gwag yn cynrychioli’r seddi sydd ar gael, ac mae’r rhai llwyd yn cynrychioli’r seddi sydd eisoes wedi’u harchebu.
I ychwanegu mwy o seddi at eich archeb, cliciwch ar y sedd yr hoffech chi ei hychwanegu. Byddwch chi’n gweld llun o’r llwyfan o leoliad bras y sedd honno ynghyd â phrisiau. Cliciwch ar ‘Dewis’ nesaf at y pris yr hoffech chi ei ychwanegu. Bydd y sedd yma nawr yn ymddangos fel rhan o weddill eich archeb. Os hoffech chi ychwanegu mwy o seddi, dilynwch y broses unwaith eto. Unwaith y byddwch chi’n fodlon ar eich newidiadau, cliciwch ar ‘Diweddaru’r Fasged’.
I ddileu seddi o’ch archeb, gallwch chi naill ai glicio ar y cylch oren sy’n cyfateb i’r sedd yr hoffech chi ei dileu ac yna clicio ar ‘Diddymu’ neu cliciwch ar y groes goch nesaf ar y sedd yn y rhestr sy’n ymddangos ar waelod eich sgrin. Unwiath y byddwch chi’n fodlon, cliciwch ar ‘Diweddaru’r Fasged’.
Yna byddwch chi’n gweld trosolwg o’ch archeb. Nodwch os ydych chi wedi ychwanegu seddi, bydd y rhai newydd yn ymddangos ar linell ar wahân.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi ticio’r blwch sy’n datgan eich bod chi wedi darllen a derbyn Amodau’r Gwerthiant, ac yna cliciwch ar ‘Diweddaru’r Archeb’ yng nghornel dde isaf y dudalen i gadarnhau eich newidiadau.
Ni fyddwch chi’n cael e-bost yn cadarnhau’r newidiadau.
Os ydych chi wedi dileu seddi ac roeddech wedi cael gostyngiad grŵp yn flaenorol, mae’n bosibl y bydd lleihau nifer y seddi yn effeithio ar y pris. Bydd angen i chi siarad ag aelod o’r tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid os bydd hyn yn berthnasol i’ch archeb. Gallwch chi gysylltu â nhw drwy gwe-sgwrs 10am – 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Os byddwch chi’n lleihau nifer y seddi yn eich archeb i lai na 10 o seddi ni fyddwch chi’n gymwys ar gyfer archeb grŵp mwyach – canslwch eich archeb drwy glicio ar ‘Canslo’r Archeb’ yn eich cyfrif, ac yna archebwch seddi drwy’r wefan yn y ffordd arferol.