Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Battle

Premiere Byd – Cyn y West End

28 Ebrill – 2 Mai 2026

Theatr Donald Gordon

Llundain, 1995. Mae dau o fandiau mwyaf gwledydd Prydain yn rhyddhau senglau ar yr un diwrnod, gan ddechrau brwydr Britpop.

Ar un ochr, deallusion ysgol gelf glân o’r De. Ar y llall, bechgyn anymddiheurol a glas o’r Gogledd. Mae’r ffraeon yn ffrwydro, mae cyfeillgarwch yn torri ac wrth wraidd popeth mae mania a fyddai’r diffinio oes – Blur neu Oasis?

O anhrefn y Brit Awards i frwydr ddrwgenwog y siartiau, mae The Battle yn gipolwg hynod ddoniol ar un o’r cystadlaethau mwyaf yn hanes roc. Gyda phersonoliaethau enwog a gwrthdrawiadau bythgofiadwy, doedd hyn byth yn ymwneud â’r gerddoriaeth, ond pŵer, balchder ac ysbryd cystadleuol afreolus. Gallwch chi ddisgwyl iaith fudr a deialog siarp yn y comedi newydd yma sy’n eich rhoi chi wrth wraidd yr elyniaeth, yr enwogrwydd a’r canlyniadau.

Gyda Mathew Horne fel y swyddog gweithredol o'r diwydiant cerddoriaeth a ddechreuodd y ras i Rif 1 rhwng y ddau fand. 

Ysgrifennwyd gan John Niven

Cyfarwyddwyd gan Matthew Dunster

Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Rhybuddion: Iaith gref

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Sad 2.30pm

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau. Trefnu ymweliad grŵp.

Dyddiad talu grwpiau20 Ionawr 2026

POBL O DAN 16 OED

Gostyngiad o £4, Maw – Iau 

16 - 30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon