Ar werth i aelodau Partner a Partner Awen 30 Mehefin, 10am
Ar werth i aelodau Ffrind 2 Gorffennaf, 10am
Ar werth i Grwpiau 3 Gorffennaf, 10am
Ar werth i'r cyhoedd 4 Gorffennaf, 10am
Mae Michael Harrison mewn cydweithrediad â Cameron Mackintosh yn cyflwyno cynhyrchiad newydd ysblennydd o MISS SAIGON wrth i sioe gerdd Boublil a Schönberg gael ei haileni.
Mae’r sgôr yn cynnwys caneuon poblogaidd fel “The Heat is On in Saigon”, “The Movie in My Mind”, “Last Night of the World” a “The American Dream”.
Fel rhan o daith fawr ledled y DU ac Iwerddon, mae’r cynhyrchiad epig yma yn cyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru ym Mehefin 2026.
Yn nyddiau olaf Rhyfel Fietnam, mae Kim, sy’n 17 oed, yn cael ei gorfodi i weithio mewn bar yn Saigon sy’n cael ei redeg gan gymeriad drwg-enwog sy’n cael ei adnabod fel The Engineer. Yno mae hi’n cwrdd ac yn syrthio mewn cariad â GI Americanaidd o’r enw Chris, ond maen nhw’n cael eu gwahanu yn ystod cwymp Saigon. Am 3 blynedd mae Kim yn mynd ar daith oroesi epig i ffeindio ei ffordd yn ôl i Chris, sydd â dim syniad fod ganddo fab.
Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed.
Rhybuddion Cynnwys: Nodwch fod y cynhyrchiad yma yn cynnwys golygfeydd o natur rywiol a threisgar, themâu amser rhyfel, arfau tanio, iaith fychanol a bras, defnydd o gyffuriau ac efelychu smygu sigaréts.
Mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys goleuadau strôb, ergydion gwn, effeithiau sain uchel, tawch theatraidd a phyrotechneg.
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 40 munud, gan gynnwys un egwyl.
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp.
POBL O DAN 16 OED
Gostyngiad o £5 ar seddi penodol, Maw – Iau.
16-30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd