Yn dilyn llwyddiant y daith gyntaf a werthwyd allan yn 2018/19, mae Matilda The Musical, y sioe gerdd arobryn gan y Royal Shakespeare Company, wedi’i hysbrydoli gan y llyfr poblogaidd gan Roald Dahl, yn mynd allan ar daith eto ledled y DU ac Iwerddon.
I ddathlu 15 mlynedd ar y llwyfan ers agor yn y Courtyard Theatre yn Stratford-upon-Avon, ac yn dilyn perfformiadau mewn 100 o ddinasoedd mewn 17 o wledydd ledled y byd, mae Matilda bellach yn dychwelyd i Gaerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru.
"SIMPLY UNMISSABLE. There’s never been a better time to see Matilda"
Gyda llyfr gan Dennis Kelly, cerddoriaeth a geiriau gan Tim Minchin ac wedi’i chyfarwyddo gan Matthew Warchus, Matilda yw stori merch fach anarferol sydd â dychymyg byw a meddwl siarp, yn meiddio sefyll ei thir a newid ei thynged.
Mae’r ffenomenon byd-eang, sydd wedi ennill dros 100 o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys 24 am y Sioe Gerdd Orau, bellach wedi cyfareddu dros 12 miliwn bobl ledled y byd.
Canllaw oed: 6+ (dim plant dan 4 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Mae'r cynhyrchiad yma yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio, laserau ac effeithiau sain uchel. Mae balwnau latecs yn cael eu popio ar y llwyfan ac mae tawch llwyfan (mwg) yn cael ei ddefnyddio.
Hyd y perfformiad: tua 2 awr a 35 munud (yn cynnwys un egwyl)
Performiadau Hygyrch
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 17 Rhagfyr 2026 / 7 Ionawr 2027 - 7.30pm
Perfformiad gyda chapsiynau: 18 Rhagfyr 2026 / 8 Ionawr 2027 - 7.30pm
Perfformiad wedi’u sain ddisgrifio:: 19 Rhagfyr 2026 / 9 Ionawr 2027 - 2.30pm
Teithiau Cyffwrdd: 19 Rhagfyr 2026 / 9 Ionawr 2027 - 1.15pm
Perfformiad Hamddenol: 14 Ionawr 2027 - 2.30pm
Mae perfformiad hamddenol yn caniatáu mwy o sŵn a symud yn yr awditoriwm, ond nid yw'r perfformiad ei hun yn newid. Mae'r perfformiad yma yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n teimlo'n fwy cyfforddus yn gwybod y gallan nhw fynd i mewn ac allan o'r awditoriwm yn ystod y sioe achos bydd drysau'r awditoriwm yn cael eu gadael ar agor a bydd y goleuadau yn aros ymlaen hefyd.
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7 (y 2 bris uchaf, Maw – Gwe).
16-30
Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Maw - Gwe).
O DAN 16
Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Maw - Gwe).
YSGOLION
£15 — 1 sedd athro am ddim i bob 10 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464 neu cofrestru fel archebwr ysgol)
Ar gael Maw - Gwe ar seddi penodol, argaeledd cyfyngedig.
Does dim cynigion ar gael rhwng 21 Rhag a 3 Ion.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd