Camwch i mewn i fyd lliwgar P. T. Barnum, lle does dim ffiniau ar ddychymyg nac uchelgais.
Law yn llaw â’i wraig Charity, mae bywyd a gyrfa Barnum yn troi a throelli wrth iddo gynllunio a breuddwydio ei ffordd i fywyd gwell.
Bydd ffefryn y West End a’r seren deledu Lee Mead yn camu ar y llwyfan fel dyn sioe adnabyddus y 19eg ganrif P. T. Barnum. Daeth Lee yn enwog ar ôl ennill Any Dream Will Do a pherfformiadau llwyddiannus yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, Wicked a Legally Blonde.
Bydd y llwyfannu newydd ysblennydd yma yn cynnwys cast ensemble arbennig o dros 20 o actorion-cerddorion yn chwarae 150 o offerynnau, acrobatiaid ac actau syrcas rhyfeddol. Mae’n sicr y bydd cynulleidfaoedd yn cael eu difyrru gan bob golygfa, rhyfeddod a gwyrth sy’n gysylltiedig ag enw Barnum!
Enillodd Barnum galon y DU yn gyntaf pan gafodd ei berfformio yn y London Palladium, gyda Michael Crawford yn creu hanes yn y byd theatr gan gerdded ar raff bob nos ar draws y llwyfan. A nawr, mae Lee Mead yn camu i mewn i esgidiau Barnum ac ar y rhaff!
Dewch i ddilyn y band gyda cherddoriaeth ogoneddus yr arobryn Cy Coleman, geiriau Michael Stewart a llyfr Mark Bramble. Mae Barnum yn cynnwys llwyth o ganeuon sioe gan gynnwys Join the Circus, Colours of My Life, Come Follow the Band a Love Makes Such Fools of Us All.
Cerddoriaeth gan Cy Coleman | Geiriau gan Michael Stewart | Llyfr gan Mark Bramble
Cyfarwyddwyd gan Jonathan O’Boyle
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed
Rhybuddion: Yn cynnwys pyrotechneg a gall gynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb.
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 15 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, argaledd cyfyngedig). Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4, grwpiau o 20+ gostyngiad o £5, grwpiau o 40+ gostyngiad o £6, (2 bris uchaf, Maw – Iau). Trefnu ymweliad grŵp.
16-30
Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Maw - Iau).
O DAN 16
Gostyngiad o £4 (2 bris uchaf, Maw – Iau).
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.